Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Cyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 25 Gorffennaf) mai William Powell o’r Groes (Crossgates), Llandrindod yw enillydd Ysgoloriaeth HCC 2024.

Bydd William, sy’n gweithio ar y fferm deuluol, yn canolbwyntio ei astudiaeth ar y sector buchod sugno ac mae’n bwriadu ymweld ag Unol Daleithiau America.

Mae HCC yn wedi bod yn cynnig yr ysgoloriaeth flynyddol hon am dros ugain mlynedd i ymgeiswyr llwyddiannus sy’n gweithio’n llawn-amser yn y diwydiant cig coch yng Nghymru. Mae'n caniatáu enillwyr i astudio agwedd ar gynhyrchu neu brosesu mewn gwlad o'u dewis.  Bu enillwyr diweddar yn edrych ar bynciau megis techno-bori, rheoli cadwraeth a defnyddio moddion lladd llyngyr ar ffermydd defaid ledled y byd.

Dywedodd James Ruggeri, Swyddog Gweithredol Datblygu’r Diwydiant yn HCC, a oedd yn aelod o’r panel cyfweld: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai William yw Ysgolor HCC eleni. Gwnaeth argraff ar y panel gyda’i angerdd am y sector cig coch, a’i awydd i ddysgu mwy. Does gen i ddim amheuaeth y bydd yn llysgennad gwych i’r sector cig eidion yng Nghymru, ar adeg pan fo’r diwydiant dan fygythiad o ganlyniad i reoleiddio newydd, problemau TB parhaus a chamddealltwriaeth ynghylch cynhyrchu cig coch.”

Meddai William Powell: “Ar hyn o bryd y farn yw nad yw buchod sugno yn gynaliadwy nac yn broffidiol.  Ond credaf y gallan nhw gael effaith fawr o ran cynnal a gwella’r ucheldiroedd. Os gallem eu gwneud yn fwy effeithlon, a defnyddio genomeg i ddewis buchod amnewid addas, byddai hynny’n helpu'r diwydiant i fod yn fwy proffidiol a chynaliadwy.

“Hoffwn ymweld â Gogledd America lle maen nhw eisoes yn defnyddio genomeg i wella ffrwythlondeb ac i wneud porthiant yn fwy effeithlon.”

Mae dyheadau William ar gyfer y dyfodol yn cynnwys gwneud ei fuches sugno ei hun yn fwy effeithlon. “Rwy’n bwriadu gwneud hynny drwy ddefnyddio’r eneteg orau sydd ar gael ledled y byd i wella effeithlonrwydd porthiant a chynaliadwyedd y busnes. Rwy’n awyddus i ddechrau defnyddio genomeg i helpu i wneud gwell penderfyniadau bridio yn hytrach na dibynnu ar siawns, a gobeithio y bydd fy mhrofiadau yn UDA yn help i mi fynd i’r cyfeiriad cywir,” meddai.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y profiad ac at roi adroddiad am yr hyn y byddaf yn ei ganfod i grwpiau ffermio yng Nghymru ar ôl i mi ddychwelyd.”

You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol