Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Mae tueddiadau sy’n sail i ffigurau’r masnach cig coch ar gyfer 2024 yn datgelu effeithiau sylweddol a allai fod ar gig eidion a chig oen yn y farchnad gartref ac allforio yn y dyfodol.

Ffigurau masnach y Deyrnas Gyfunol a ryddhawyd yn ddiweddar yw ffocws Bwletin y Farchnad Hybu Cig Cymru (HCC) y mis hwn.

Maen nhw’n dangos bod cynhyrchiant cig eidion y DG wedi cynyddu pedwar y cant tra bod cynhyrchiant cig defaid wedi gostwng saith y cant yn 2024. Roedd y cynnydd yng nghynhyrchiant cig eidion yn dilyn cynnydd o dri y cant yng nghyfanswm y trwybwn, tra bod nifer y defaid ac ŵyn a broseswyd wedi gostwng wyth y cant mewn cymhariaeth â 2023.

“Mae’r newidiadau hyn mewn cynhyrchu domestig, a gofnodwyd gan Defra, wedi effeithio’n uniongyrchol ar faint o gig sydd ar gael i’w allforio ac wedi cyfrannu at newidiadau nodedig yn nynameg y masnach cig coch yn 2024,” meddai Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes HCC.

Mae ffigurau Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn dangos bod cyfanswm allforion cig defaid y DG wedi gostwng tua 79,500 tunnell, sef rhyw chwech y cant yn llai oddi ar 2023. Fodd bynnag, cynyddodd cyfanswm gwerth yr allforion hyn saith y cant, gan gyrraedd £582.8 miliwn. “Mae’n debygol bod hyn oherwydd prisiau cryf wrth gât y fferm yn y DG ac yn fyd-eang,” meddai Glesni. “Mae’n bosibl bod cyfeintiau is yn ganlyniad i gyflenwadau domestig cyfyngedig, gyda chynhyrchiant yn gostwng saith y cant yn y DG i 266,500 tunnell.

“Er gwaethaf hyn, roedd lefelau allforio yn 2024 yn uwch nag yn 2022 a 2021. Gostyngodd allforion i farchnadoedd yr UE a’r tu allan i’r UE, gyda’r gostyngiadau mwyaf mewn pwysau i Iwerddon a’r Almaen.”

Cynyddodd mewnforion cig defaid o’r DG 40% o’r naill flwyddyn i’r llall, gan gyrraedd 67,880 tunnell – y lefel uchaf oddi ar 2018. “Achoswyd hyn yn bennaf gan gynnydd yn y mewnforion o Seland Newydd – i fyny 14,300 tunnell – ac Awstralia – i fyny 6,500 tunnell,” meddai Glesni. Mae’r ddwy farchnad hon bellach yn gyfrifol am 86 y cant o fewnforion cig defaid y DG, i fyny o 78 y cant yn 2023.

“Mae’r cynnydd yn y mewnforion yn adlewyrchu prisiau is o Hemisffer y De ynghyd â’r Cytundebau Masnach Rydd newydd, cyflenwad domestig cyfyngedig a’r prisiau pwysau marw uchaf erioed yn y DG. Mae mewnforion wedi tyfu er mwyn ateb y galw – sydd wedi brigo adeg gwyliau crefyddol allweddol,” meddai Glesni.

Nododd data pellach gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi fod y DG wedi allforio bron i 113,000 tunnell o gig eidion yn ystod 2024, sef cynnydd o naw y cant o’r naill flwyddyn i’r llall. Cynyddodd cyfanswm gwerth yr allforion hyn 16 y cant, gan gyrraedd £567.2 miliwn. “Cafodd y twf hwn ei achosi’n bennaf gan fwy o allforio i Ffrainc, Canada a’r Iseldiroedd,” meddai Glesni.

Iwerddon yw prif gyrchfan cig eidion y DG o hyd, ond gostyngodd ei chyfran o 34 y cant yn 2023 i 29 y cant, gyda gostyngiad yn y mewnforion o saith y cant i 32,500 tunnell. Cafwyd cynnydd hefyd ym mewnforion cig eidion y DG yn ystod y flwyddyn, gyda chyfeintiau’n codi wyth y cant i 240,700 tunnell.  Cynyddodd gwerth y mewnforion hyn 11 y cant o’r naill flwyddyn i’r llall, gan gyrraedd £1.4 biliwn.  Iwerddon oedd y prif gyflenwr o hyd, a chafwyd cynnydd o 13 y cant ym mhwysau’r cig eidion a fewnforiwyd oddi yno. Cafwyd twf hefyd yn y mewnforion o Seland Newydd ac Awstralia, a olygodd bod bron hanner y cig o wledydd y tu allan i’r UE wedi dod o’r ddwy wlad honno.

Roedd cyfanswm gwerth yr allforion cig coch (ffres/wedi’i rewi) o Gymru wedi cyrraedd £277.4 miliwn – naw y cant yn uwch na’r flwyddyn flaenorol. Amcangyfrifwyd hefyd bod allforion cig eidion naw y cant yn uwch, gan gyrraedd bron i 16,000 tunnell, gyda chynnydd o 16 y cant yn eu gwerth. O ran cig defaid, arweiniodd cyfyngiadau yn y cyflenwad domestig at ostyngiad yn y cyfaint allforio o saith y cant i tua 27,200 tunnell. “Er gwaethaf y gostyngiad hwn, cynyddodd gwerth allforion cig defaid chwech y cant o’r naill flwyddyn i’r llall, yn sgil prisiau uwch wrth gât y fferm,” meddai  Glesni.

Mae Bwletin y Farchnad ar gael ar wefan HCC: https://meatpromotion.wales/cy/market-intelligence/bwletin-y-farchnad/


You may also like

Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd