Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Ar drothwy Diwrnod Daear y Byd (22 Ebrill), mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn atgoffa’r cyhoedd am gyfraniad hollbwysig ffermio da byw wrth ofalu am yr amgylchedd, ac yn pwysleisio bod gwahaniaeth amlwg mewn systemau cynhyrchu ar draws y byd.

Dywedodd Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol yn HCC, Rachael Madeley-Davies: “Mae ffermwyr Cymru’n gwybod os byddwch yn gofalu am yr amgylchedd, fe fydd yr amgylchedd yn gofalu amdanoch chi.

“Ers canrifoedd, maen nhw wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o greu a chynnal y tirweddau gwledig prydferth rydyn ni’n eu hadnabod ac yn eu caru, ac mae eu rheolaeth gynaliadwy wedi helpu i greu amgylchedd gwledig amrywiol sy’n gyfoethog o ran bywyd gwyllt ac yn gyfeillgar i ymwelwyr, diolch i rwydwaith o lwybrau troed a gynhelir gan ffermwyr.”

Wrth i effaith amaethyddiaeth ar newid yn yr hinsawdd barhau i fod yn bwnc llosg iawn, mae HCC yn atgoffa pobl sut mae effaith amgylcheddol y gwahanol systemau ffermio ar draws y byd yn amrywio’n fawr, a bod Cymru yn addas dros ben ar gyfer magu gwartheg a defaid.

“Mae gan y ffordd Gymreig o ffermio stori wahanol iawn i’w hadrodd o’i chymharu â rhai o’r systemau dwys a diwydiannol mewn rhannau eraill o’r byd.  Gyda’u safonau uchel o hwsmonaeth anifeiliaid a rheoli tir glas, mae ein ffermydd teuluol wedi helpu i ddiogelu ein tirwedd unigryw ers cenedlaethau a byddan nhw’n dal i wneud hynny am genedlaethau i ddod,” ychwanegodd Rachael Madeley-Davies.

Mae’r mwyafrif helaeth (80%) o dir fferm Cymru yn anaddas ar gyfer tyfu cnydau, a magu gwartheg a defaid yw’r ffordd fwyaf effeithlon o droi tir ymylol yn fwyd o ansawdd uchel.

Nid yw’r ffordd Gymreig o ffermio yn ddwys ar y cyfan. Yn wahanol i rannau eraill o’r byd, lle mae adnoddau dŵr yn cael eu disbyddu neu lawer o dir yn cael ei ddefnyddio i dyfu porthiant, mae’r rhan fwyaf o ddefaid a gwartheg Cymru yn cael eu magu drwy ddefnyddio ein hadnoddau naturiol, sef porfa  a dŵr glaw.

Mae’r tir glas ar fryniau Cymru yn dal carbon o'r atmosffer, ac mae ffermwyr Cymru yn helpu i liniaru newid hinsawdd drwy reoli'r tir glas hwn wrth gyfuno arferion traddodiadol a datblygiadau arloesol. Un o’r ffermwyr sy’n gwneud hyn yw Emily Jones.  Mae hi a’i rhieni, Peter a Gill, yn manteisio ar arbenigedd sawl cenhedlaeth o ffermwyr  i gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru danteithiol.

Mae ucheldiroedd canolbarth Cymru yn anaddas ar gyfer tyfu cnydau oherwydd, yr un fath â'r rhan fwyaf o Gymru, mae'r tir yn ymylol. Fodd bynnag, mae da byw yn ffynnu ar y bryniau hyn. Saif Garn-wen –  ffermdy llechi a cherrig sydd yn ganrifoedd oed, ynghyd â nifer o dai allan â waliau sychion traddodiadol – ym Mhen-uwch, tua saith milltir o Dregaron a 17 milltir o Aberystwyth

Mae’r fferm 150-erw yn cynnal uned o wartheg cig a defaid .  Mae’r defaid yn cynnwys diadell fasnachol o ddefaid EasyCare a Mynydd De Cymru, ynghyd â Cheviots Parciau Gogledd Lloegr, Cheviots Bryniau Gogledd Lloegr a defaid Bryniau Charmoise. O ran cig eidion, mae'r fuches yn cynnwys gwartheg croes Stabilizer, gwartheg Byrgorn Cig Eidion pedigri a gwartheg Cochion Moel.

Wrth drafod eu system ffermio, dywedodd Emily: “Rydym yn gwneud pob ymdrech i fynd yn ôl i’r hen ddyddiau ac i draddodiadau ffermio ein cyndeidiau. “Ond rydyn ni hefyd yn edrych tua'r dyfodol ac yn chwarae ein rhan i helpu’r amgylchedd, fel cynyddu faint o garbon sy’n cael ei ddal a ffermio mewn cytgord â byd natur.

“Mae hyn wedi cynnwys plannu gwndwn llysieuol, sydd â meillion, sicori a llyriad. Mae gan bob un o’r rhain ddefnyddiau naturiol a byddan nhw’n ein helpu i wella iechyd y pridd, a chynhyrchiant ar y fferm, gan leihau ein hallyriadau carbon.

“Mae hyn yn rhywbeth cymharol newydd i ni yma yng Ngarn-wen, ond rydyn ni’n ymwybodol o effaith newid yn yr hinsawdd ac yn benderfynol o fod yn rhan o’r ateb wrth gynhyrchu bwyd o safon yn y ffordd fwyaf ecogyfeillgar posib.”


You may also like

Ffigyrau diweddaraf y DU yn dangos y posibilrwydd o gyflenwad tynnach
Ffigyrau diweddaraf y DU yn dangos y posibilrwydd o gyflenwad tynnach
Lansio ymgyrch newydd Cig Eidion Cymru
Lansio ymgyrch newydd Cig Eidion Cymru
Cannoedd o ffeithiau am dda byw ar flaenau eich bysedd
Cannoedd o ffeithiau am dda byw ar flaenau eich bysedd
Marchnadoedd Mwslimaidd yn cefnogi dyfodol gwerthiant Cig Oen Cymru, yn ôl arbenigwr
Marchnadoedd Mwslimaidd yn cefnogi dyfodol gwerthiant Cig Oen Cymru, yn ôl arbenigwr