Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae adroddiad ar y cyd rhwng y cyrff ardoll, Hybu Cig Cymru, QMS ac AHDB, yn tynnu sylw at gamau ymarferol y gall ffermwyr eu cymryd i wella eu heffaith ar yr amgylchedd a bod yn fwy proffidiol.

Dywedodd Dr Heather McCalman, Swyddog Gweithredol HCC  ar gyfer Ymchwil a Datblygu a Chynaliadwyedd: “Cafodd yr adroddiad hwn ei gomisiynu mewn ymateb i’r heriau sy’n wynebu’r sector gwartheg sugno cig eidion yn y DG, ac mae’n cynnig ffyrdd ymarferol i ffermwyr fynd i’r afael â’r heriau hynny.”

Bu’r astudiaeth yn ystyried sut y gallai 16 o arferion, ar draws pedwar categori – geneteg a bridio, lloia a ffrwythlondeb, porthiant a rheolaeth, yn unigol ac ar y cyd –  gyfrannu at  fwy o gynnyrch a phroffidioldeb, a llai o effaith ar yr amgylchedd.

Er i’r canlyniadau gael eu hasesu ar wahân, maent yn perthyn i’w gilydd.

“Bydd  gwneud y fferm yn fwy effeithlon yn golygu llai o gostau a mwy o elw. Mae llawer o’r hyn sy’n gwella cynhyrchiant – megis cael buchod iau yn gyflo am y tro cyntaf – yn arwain at lai o fuchod amnewid, sy’n cael effaith buddiol ar yr amgylchedd. Mae llai o fuchod amnewid yn golygu llai o fethan enterig, llai o wrtaith (sy'n lleihau ocsid nitraidd, amonia a thrwytholchi nitrad) a llai o borthiant, gan arwain at lai o allyriadau cysylltiol,” meddai Dr McCalman.

Mae targedau statudol, gan gynnwys y gofyniad i’r DG gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr Sero Net erbyn 2050, a gofynion cynyddol y gadwyn gyflenwi am gig eidion a gynhyrchir ag allyriadau nwyon tŷ gwydr isel, yn ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr wneud gwelliannau i’w systemau cynhyrchu.

“Bydd mabwysiadu dulliau ffermio sy’n gwella effeithlonrwydd yn helpu i gyrraedd y nod o ran yr  amgylchedd ac i wella proffidioldeb.   Mae'r gwaith hwn yn rhoi darlun clir i ffermwyr a’r bobl sydd yn eu cynghori  o sut y gall arferion rheoli helpu i wneud penderfyniadau effeithiol.

“Yn sgil yr ymchwil hwn, gall ffermwyr adolygu a gwella eu harferion ffermio a manteisio ar gyngor ymarferol a fydd yn hybu cynhyrchiant a phroffidioldeb ac yn gwella’r effaith ar yr amgylchedd. Bydd hyn i gyd yn gwneud y sefyllfa’n gliriach ac yn darparu tystiolaeth gadarn i gefnogi a hybu’r sector cig eidion,” ychwanegodd.

Mae yr adroddiad i’w weld yma:  https://meatpromotion.wales/cy/industry-resources/adnoddau-cig-eidion

You may also like

Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd