Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn recriwtio ffermwyr i gymryd rhan mewn prosiect newydd sy’n edrych ar wneud y defnydd gorau o laswelltir tra’n gwneud arbedion ariannol sylweddol i’r busnes.
Bydd yr arbedion posibl o £1.6 biliwn yn deillio o arferion rheoli glaswelltir effeithlon sy’n gyfeillgar â natur. Byddant hefyd yn helpu busnesau ffermio i addasu i heriau newid hinsawdd, ac wrth wneud hynny, yn helpu’r diwydiant i weithio tuag at dargedau sero net.
Mae’r prosiect - o’r enw Rhaglen Defnydd Tir ar gyfer Sero Net Natur a Phobl (LUNZ) - yn chwilio am ffermwyr o Gymru sydd wedi bod yn ffermio mewn ffyrdd sy’n gweithio gyda natur i gynhyrchu bwyd. Mae’r dulliau yma’n tueddu bod yn rhai sy’n lleihau mewnbynnau heb fod yn organig ac yn annog amrywiaeth ar draws y fferm ac o fewn caeau. Mae’r dulliau yn cynnwys y defnydd o godlysiau, lleihad mewn gwrtaith a chwynladdwyr, pori cylchdro, bioamrywiaeth a chreu cynefinoedd. Ochr yn ochr â’r rhwydwaith o ffermydd masnachol ar draws Cymru a’r DU, bydd ymchwil gwyddonol mewn sawl prifysgol yn archwilio dulliau newydd a’u heffeithiau.
Fel rhan o ddulliau holistaidd o asesu busnesau ffermio yn gynaliadwy, bydd ffermwyr yn cwblhau dull o asesu o’r enw Global Farm Metric (GFM) gyda chymorth ymchwilydd. Rhennir y canlyniadau gyda’r ffermwr a’u defnyddio ar gyfer gwneud newidiadau ar y fferm. Bydd ffermwyr hefyd yn elwa o archwiliadau bioamrywiaeth, ac yn samplu rhai o’u caeau i ddadansoddi’r pridd, llystyfiant a charbon.
Mae Dr Heather McCalman, Swyddog Gweithredol Ymchwil a Datblygu a Chynaliadwyedd HCC, yn gyfrifol am gydlynu elfennau ffermydd cig eidion a defaid o Gymru o fewn y prosiect. Meddai:
“Rydym ni’n annog ffermwyr dros Gymru i fod yn rhan o raglen glaswelltiroedd LUNZ. Ei nod yw arddangos manteision amgylcheddol a chymdeithasol ehangach o systemau cig eidion a defaid yng Nghymru sy’n seiliedig ar laswelltir ond bydd busnesau unigol hefyd yn manteisio. Bydd yn darparu tystiolaeth o sut y gall arferion rheoli glaswelltir helpu i gynnal proffidioldeb ffermydd, lleihau nwyon tŷ gwydr a gwella bioamrywiaeth ac iechyd y pridd. Mae’n gyfle gwych i gael mesur ôl-troed carbon a GFM yn rhad ac am ddim. Fel rhan o glwstwr o tua 10 fferm, cewch eich gwahodd i weithdy i drafod eich canlyniadau a rhannu syniadau ar dechnegau i wella gwytnwch eich fferm a’ch busnes.”
Dylai ffermwyr sydd â diddordeb gysylltu â Dr Heather McCalman ar hmccalman@hybucig.cymru / 07740592377 cyn 31 Rhagfyr i drafod ymhellach.
Ychwanegodd:
"Mae nifer o ffermwyr yn derbyn cyfarwyddyd aneglur ar sut i leihau allyriadau, gan arafu cynnydd y diwydiant. Ond wrth ddefnyddio ymchwil a chasglu data o astudiaethau achos yng Nghymru - ynghyd ag eraill ar draws y DU - bydd y prosiect yma’n mynd i’r afael â strategaethau glaswelltir effeithlon, ymarferol a fforddiadwy i leihau allyriadau a chynyddu atafaeliad carbon, tra’n cynnal cynhyrchiant.”
Mae Glaswelltiroedd LUNZ yn un o bum prosiect ymchwil a ariennir i fynd i’r afael â’r her o allyriadau sero net yn y DU erbyn 2050. Ariennir y prosiect ar y cyd gan UKRI, Defra (ar ran Cymru a Lloegr), DESNZ, ac mae wedi’i gynllunio ar y cyd gyda’r Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.