Mae nifer o gyfleoedd newydd yn aros am Gig Oen Cymru yn y farchnad Fwslimaidd ryngwladol a domestig, yn ôl arbenigwr o’r diwydiant a gyflwynodd i gynrychiolwyr o sector amaeth Cymru yng nghynhadledd flynyddol ddiweddar Hybu Cig Cymru (HCC) yn Llanelwedd.
“Gan edrych ar y Deyrnas Unedig yn unig, mae 3.9m o Fwslemiaid ac mae ein hymchwil yn awgrymu bod 80 y cant ohonynt yn bwyta cig oen oleiaf unwaith yr wythnos,” meddai Dr Awal Fuseini, Uwch Reolwr Sector Halal y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB).
“Mae hynny’n cymharu â chwech y cant o bryniannau unwaith-yr-wythnos gan y cyhoedd yn y DU. Wrth i’r defnydd o gig oen leihau yn gyffredinol ymysg y cyhoedd, mae’n cynyddu o fewn y gymuned Fwslimaidd - felly gallwch weld bod y drws ar agor i gynyddu gwerthiant cig oen.”
Soniodd am y prif farchnadoedd Mwslimaidd - o’r gwledydd Ewropeaidd - Ffrainc yn bennaf - UDA a Theyrnas Saudi Arabia: “Heblaw am gael eu tan-ecsbloitio hyd yn hyn gan gynnyrch o Brydain sydd wedi’i allforio, mae’r marchnadoedd yma i gyd yn tyfu mewn maint.”
Dywedodd bod angen “cymryd y farchnad yn y Dwyrain Canol o ddifrif. Mae’n farchnad bremiwm. Maen nhw’n talu mwy am y cig gorau na gwledydd eraill – mewn rhai achosion, deirgwaith yn fwy.”
Teimla Dr Fuseini bod cyfleoedd di-oed ar gael yn y farchnad ddomestig. “Mae hynny oherwydd bod gan broseswyr yn y DU y cyfle i fanteisio i’r eithaf o’u helw achos mae gan y cwsmer Mwslimaidd ddiddordeb mewn cynnyrch o bob rhan o’r carcas,” meddai. Yn ogystal, nododd nifer o wyliau crefyddol Mwslimaidd a oedd yn bwysig i farchnad y DU.
Dywedodd bod hi’n syndod, yn aml, mai’r llwybr at ddefnyddwyr ar hyn o bryd yw drwy gwmnïau annibynnol ac nid drwy’r manwerthwyr mawr. “Os edrychwch ar ble mae cig oen Halal yn cael ei werthu, mae’r mwyafrif ohono’n dod o siop y gornel neu gigydd annibynnol.”
Nid oedd cyflenwad yn broblem gan fod tua 70 y cant o gyflenwad y DU o gig oen yn ateb gofynion Halal, ond er mwyn ateb galw’r cwsmeriaid yn well, bod mwy i’w wneud i dynnu sylw at y sicrwydd sy’n dod gyda’r cynnyrch, meddai. “Mae’n rhaid i’r gadwyn gyflenwi wneud yn siŵr bod y sicrwydd o ran cyflenwad yn cwrdd â disgwyliadau’r gymuned Fwslimaidd ac, yn enwedig yn lle mae’r cwsmer iau yn prynu, ei fod yn cwrdd â’r gofynion amgylcheddol sy’n bwysig iawn iddynt.”
Dywedodd Dr Fuseini ei fod yn teimlo mai’r cyfle unigol mwyaf fyddai’r farchnad yn Saudi. “Dyma’r farchnad arfaethedig fwyaf oherwydd twristiaeth a chyfoeth yn y gymuned. Mae Cig Oen Cymru’n cael ymateb da; mae o mewn gwesty pum seren yno’n barod ac mae’n pasio’r trothwy ansawdd mwyaf uchel,” meddai.