Mae diwydiant cynhyrchu cig coch Cymru yn werth oddeutu £768 miliwn, ac yn cyfri am oddeutu 37% o werth holl gynnyrch amaethyddol Cymru - dyma ddau o’r ffeithiau diddorol a geir mewn llyfryn newydd sy’n trafod y diwydiant da byw.
Mae’r Llyfr Bach o Ffeithiau am Gig, Casgliad o Ystadegau’r Diwydiant Cig Coch a Da Byw yng Nghymru 2024, yn llwyddo i gywasgu gwerth deuddeg mis o ddata ar 56 tudalen. Dylai fod ar frig rhestr ddarllen gweithwyr proffesiynol ym maes cynhyrchu cig coch, ac unigolion sy’n ymddiddori ym maes ffermio da byw.
Mae’r llyfryn, a gyhoeddwyd gan Hybu Cig Cymru (HCC), yn adrodd bod 13,875 o ddaliadau defaid yng Nghymru yn 2023, mae hyn yn llai na’r 14,067 o ddaliadau defaid a oedd yng Nghymru yn 2022. Yn 2023, roedd gan bob daliad braidd cyfartalog o 627 o ddefaid, 665 oedd y ffigwr cyfatebol y flwyddyn flaenorol. Cafodd cyfanswm o 2.4 miliwn o ddefaid ac ŵyn eu lladd mewn lladd-dai yng Nghymru, 2% yn llai nag yn 2022, a chynhyrchwyd 46,100 tunnell o gig dafad. Mae'r lefel hwn o drwybwn yn cyfrif am 18% o holl drwybwn Prydain Fawr yn 2023.
Dywedodd Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi, a Mewnwelediad Busnes gyda Hybu Cig Cymru: “Mae’r gyfrol hon yn berffaith i unrhyw un sydd â diddordeb proffesiynol, neu gyffredinol yn niwydiant cig coch Cymru. Mae’n cynnwys miloedd o ystadegau a ffeithiau sy’n dod at ei gilydd i greu darlun cynhwysfawr o’r diwydiant yn ystod blwyddyn o weithgarwch amaethyddol. Gallwch chi gael gafael ar y llyfryn yn hawdd drwy ei lawrlwytho.”
Yn ôl y llyfryn, 578.9c/kg oedd pris cyfartalog pwysau marw Prisiau Ansawdd Safonol dafad R3L ym Mhrydain Fawr yn 2023; tua 8.2 ceiniog yn uwch na’r pris cyfartalog yn 2022. Roedd nifer yr ŵyn a werthwyd yng Nghymru 3.6% yn llai na’r arfer yn 2022 ac roedd gwerth y gwerthiannau hyn 3% yn is hefyd, er gwaetha’r ffaith fod pris cyfartalog oen yn £11.4/kg y flwyddyn honno sydd ychydig yn uwch na’r arfer. Roedd 43% o werthiant cig oen yn dod o ddarnau rhost y goes, o’i gymharu â 39% y flwyddyn flaenorol. Roedd 11% o’r holl gig oen a werthwyd ym Mhrydain wedi eu gwerthu mewn siopau cig, 12.3% yn is nag yn 2022.
Mae cannoedd o ffeithiau am gig eidion i ddiddori’r rhai sy’n arbenigo mewn gwartheg hefyd. Ymysg y ffeithiau hyn mae’r llyfr yn nodi mai maint cyfartalog buches yng Nghymru yn 2023 oedd 23, ac roedd 6,595 o ddaliadau gwartheg eidion o’i gymharu â 6,790 o ddaliadau yn 2022. Cafodd 383,246 o loi eu cofrestru, a lladdwyd 172,800 o wartheg mewn lladd-dai yng Nghymru - cynnydd o 42% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Cynhyrchwyd 51,300 tunnell o gig eidion (cynnydd o 34% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol). Pris cyfartalog pwysau marw bustych R4L yng Nghymru a Lloegr yn 2023 oedd 485.3c/kg - mae hyn 45.5 ceiniog yn uwch na’r pris cyfartalog yn 2022.
Dywedodd Glesni wrth ganmol y llyfr: “Mae popeth sydd i’w wybod am y diwydiant da byw yng Nghymru ar gael ar flaenau eich bysedd. Os hoffech chi ddysgu mwy am bwnc penodol neu am y diwydiant yn gyffredinol, mae’r llyfr hwn yn adnodd perffaith i’w roi ar eich desg.”
I edrych ar rifyn 2024 o’r Llyfr Bach o Ffeithiau am Gig, ewch i’r wefan - https://meatpromotion.wales/cy/market-intelligence/market-analysis/