Mae prosiect RamCompare yn dathlu ei ddegfed pen-blwydd eleni wrth iddo chwilio am hyrddod ychwanegol i ymuno â’r tymor bridio newydd.
Mae’r prawf epil cenedlaethol, a lansiwyd yn 2015 ac sy’n cael ei ariannu ar y cyd gan Hybu Cig Cymru (HCC) a’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), ag angen hyrddod neu semen o fridiau hyrddod cig sydd wedi’u cofnodi am berfformiad.
Dywedodd Bridget Lloyd, cydgysylltydd prosiect RamCompare: “Dyma gyfle gwych i fridwyr. Bydd profi geneteg eu hyrddod o fewn y prawf epil cenedlaethol yn rhoi data pwysig iddyn nhw i’w ddefnyddio i hybu gwerthiant hyrddod yn y dyfodol.
“Mae gwella effeithlonrwydd a lleihau costau yn allweddol i unrhyw fusnes. Mae enwebu hyrddod ar gyfer RamCompare yn rhoi cyfle unigryw i fridwyr gasglu gwybodaeth a all ddangos sut y gallai eu hyrddod fod o fudd i fentrau unigol ar gyfer darpar brynwyr.”
Mae’r ffermwr Robert Gregory o Amwythig wedi cyflenwi nifer o hyrddod i ffermydd yng Nghymru sy’n ymwneud â RamCompare. Mae’n cynhyrchu hyrddod Charollais cofnodedig ar gyfer bridwyr pedigri a masnachol ac mae’n cofnodi gyda Gwasanaethau Bridio Signet ers dros ugain mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwelodd gynnydd graddol yng nghyfradd twf a dyfnder cyhyrau ei hyrddod, ynghyd â gostyngiad mewn lefelau braster
Dywedodd: “Rydw i wedi cyfrannu hyrddod at y prosiect ers nifer o flynyddoedd gan fy mod yn teimlo bod hynny’n rhoi gwybodaeth wirioneddol dda i ffermwyr defaid masnachol ar gyfer penderfyniadau ynghylch bridio. Byddwn yn annog y sector defaid yng Nghymru i elwa ar yr holl waith cofnodi perfformiad y mae bridwyr yn ei wneud a defnyddio’r data i hybu geneteg diadelloedd defaid ar gyfer y dyfodol.”
Ers lansio RamCompare, cafodd dros 503 o hyrddod eu profi, gan gynhyrchu mwy na 48,000 o ŵyn, a helpu ffermwyr i ddewis hyrddod â pherfformiad da. Mae eu hepil yn darparu carcasau gwerthfawr ac mae’r costau cynhyrchu yn is.
Mae'r prosiect yn profi hyrddod cig â Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBVau) sydd ymhlith 20% uchaf eu brid. Dylai'r hyrddod ar gyfer cenhedlu naturiol fod yn hyrddod un-cnaif neu’n hyrddod stoc sydd â iechyd da. Mae croeso i hyrddod stoc hŷn os ydynt yn holliach ac yn ffrwythlon. Mae'r prosiect hefyd yn prynu semen wedi'i rewi mewn pecynnau o 30 dos i'w ddefnyddio drwy semenu artiffisial.
Dywedodd Dr Heather McCalman, Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer Ymchwil a Datblygu a Chynaliadwyedd: “Rydym yn awyddus i weld mwy o ffermydd yn ymuno â’r gwaith arloesol hwn sy’n defnyddio data o’r fferm er mwyn gwella geneteg o fewn diwydiant defaid y DG.
Trwy ddefnyddio’r eneteg orau sydd ar gael, mae modd gwella perfformiad a phroffidioldeb y ddiadell yn sylweddol. Mae’n cael ei gydnabod yn gyffredinol taw dewis anifeiliaid magu â ffigurau perfformiad uchel yw’r un ffordd fwyaf effeithiol o wneud cynhyrchu da byw yn fwy proffidiol ac effeithlon. Gyda hyn mewn golwg, byddwn yn cymell ffermwyr o bob rhan o Gymru sydd â diddordeb mewn geneteg ac sy’n fodlon cofnodi perfformiad eu diadelloedd i wneud cais.”
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dr McCalman ar 01970 625050 / hmccalman@hybucig.cymru neu ewch i: ramcompare.com. Mae enwebiadau’n cau ddydd Gwener 16 Mai 2025. Gallwch ddod o hyd i’r ffurflenni yn uniongyrchol drwy’r dolenni a ganlyn:
Gallwch hefyd gysylltu â chydlynydd y prosiect Bridget@Bridget-Lloyd.com yn uniongyrchol i gael rhagor o fanylion.
I gael gwybodaeth dechnegol am hyrddod cig â chofnodion perfformiad, ewch i Publications | Signet Breeding (signetdata.com)