Mae Robert Powell o Abertawe, sy’n aelod o grŵp Cig-weithio Hybu Cig Cymru (HCC), wedi’i enwi fel un o 13 unigolyn newydd i dderbyn statws Prif Gigydd i gyd-daro ag Wythnos Genedlaethol y Cigydd (3-9 Mawrth).
Mae’r ffermwr defaid a gwartheg, sydd hefyd yn gweithio i Dunbia fel Rheolwr Gweithrediadau Bwys Ffres, wedi cwblhau proses asesu fanwl y Sefydliad Cig a rŵan yn gymwys i ddefnyddio’r ôl-enw, MB.Inst.M.
Dewiswyd Robert ar gyfer rhaglen 12-mis HCC, Cig-weithio, y llynedd. Mae’n gynllun newydd a gynlluniwyd i ddatblygu a chefnogi’r gadwyn gyflenwi cig coch yng Nghymru, ar gyfer unigolion rhwng 21-35 mlwydd oed. Mae’r grŵp yn cynnwys deng aelod sy’n dod ynghyd i ddysgu gan ei gilydd ac eraill o fewn y sector, gyda’r nod yn y pendraw o gynyddu eu dealltwriaeth o wahanol agweddau o’r diwydiant a meithrin cysylltiadau newydd.
Meddai Robert: “Rwy’n bartner seithfed-cenhedlaeth yn y fferm deuluol a dechreuais ennill profiad fel cigydd ar ddydd Sadwrn yn y siop gigydd leol. Rwyf wrth fy modd i dderbyn y clod yma sy’n cydnabod fy ngwaith a’m hymdrechion o fewn sector rwy’n angerddol amdani.
“Mae fy ngwreiddiau mewn amaethyddiaeth yn pontio saith cenhedlaeth, a dros ddeng mlynedd gyda chwmnïau Dunbia a Dawn. Mae fy nghefndir yn y diwydiant wedi mynd a fi o’r fferm i fod yn weithiwr mewn lladd-dy, yn gigydd, rheolwr safle mewn lladd-dy a rŵan yn Rheolwr Gweithrediadau mewn safle manwerthu yn cyflenwi’r archfarchnadoedd i gyd. Mae derbyn y teitl Prif Gigydd yn fraint, fel mae fy aelodaeth o’r grŵp Cig-weithio sy’n gyfle gwych i ehangu fy rhwydwaith o gysylltiadau gan fy helpu i ddatblygu i fod yn arbenigwr cyflawn ar y gadwyn gyflenwi amaeth/cig coch gyda’r gallu a’r wybodaeth i ddylanwadu a siapio dyfodol sector cig coch Cymru.”
Fel rhan o waith y grŵp, gofynnwyd iddynt gyd-gynllunio prosiect i gynhyrchu gwybodaeth newydd ar gyfer y sector. Dewisodd y criw ystyried barn defnyddwyr tuag at gynaliadwyedd Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.
Meddai Elizabeth Swancott, Uwch Swyddog Gwybodaeth y Farchnad ac Ymchwil a Datblygu HCC: “Fe hoffem ni yn HCC longyfarch Robert ar ei gamp. Mae’n aelod gwerthfawr o’r grŵp Cig-weithio ac yn ysbrydoliaeth i eraill yn y sector.
“Mae Robert yn cynnig mewnwelediad i gigyddiaeth a phrosesu i’r grŵp, yn ogystal â phrofiad ymarferol o gynhyrchu cig coch. Mae hyn yn gweithio’n dda gydag arbenigedd yr aelodau eraill sy’n dod o gefndiroedd proffesiynol amrywiol yn cynnwys manwerthu, cyfanwerthu, glaswelltir, cynaliadwyedd ac arwerthu.”
Cynhaliwyd sesiwn diwethaf y grŵp Cig-weithio yng ngogledd Cymru'r wythnos ddiwethaf. Roedd rhaglen y diwrnod yn cynnwys cyflwyniadau diddorol gan unigolion sy’n gweithio o fewn y diwydiant cig coch, sesiwn i ddadansoddi canlyniadau eu hymchwil a thaith fferm drwy garedigrwydd y ffermwr bîff, Dylan Jones, Castellior.
Mae HCC yn gweithio gyda manwerthwyr y DU - o gigyddion lleol i’r manwerthwyr - sy’n gwerthu cig coch Cymru ac yn rhannu hyrwyddiadau a chystadlaethau HCC yn ogystal â deunyddiau man-gwerthu. Mae gan HCC wefan ar gyfer y sector gwasanaeth bwyd a masnach, sef: https://welshlambandbeef.com/gb/cy/