Mae chwyddiant a chostau mewnbwn fferm uchel yn parhau i herio'r sector amaethyddol, gan effeithio ar broffidioldeb a chymhlethu gallu ffermwyr Cymru i wneud penderfyniadau busnes. Er mwyn deall y materion hyn yn well, cynhaliodd Hybu Cig Cymru (HCC) arolwg o fusnesau ffermio Cymru ym mis Medi 2022, 2023, a 2024 ac mae’n gwahodd ffermwyr i gymryd rhan yn y broses eto eleni drwy lenwi’r pedwerydd arolwg.
Meddai Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes yn HCC: “Mae eich barn yn hanfodol ar gyfer yr ymchwil hwn. Drwy gwblhau ein holiadur 10-munud byr a rhannu eich cynlluniau ar ddyfodol eich busnes fferm, byddwch yn ein helpu i asesu heriau presennol a fydd yn ddefnyddiol i lywio trafodaethau yn y dyfodol. Byddwch hefyd yn cael eich cynnwys mewn raffl am ddim gyda chyfle i ennill taleb cig gwerth £50.”
Bydd yr holiadur yn cau ddydd Llun 29 Medi 2025. Cliciwch ar y ddolen yma i’w agor: https://www.surveymonkey.com/r/phase4CYM
Mae papur sy’n crynhoi canlyniadau’r holiaduron blaenodol ar gael yma: https://meatpromotion.wales/wp-content/uploads/2024/12/Farmer-Intentions-Survey-Summary-Report-Phase-3.pdf





