Mae’r sbotolau ar Gig Eidion Cymru PGI gyda lansiad ymgyrch amlgyfrwng newydd i hyrwyddo’r cynnyrch eiconig.
Y bocsiwr Olympaidd, peldroediwr a merch o’r Cymoedd, Lauren Price MBE fydd Llysgennad Cig Eidion Cymru ar gyfer yr ymgyrch, a bydd yn rhannu ffeithiau a rysetiau blasus am gig coch gyda miloedd o’i dilynwyr.
Dan arweiniad Hybu Cig Cymru (HCC), mae’r ymgyrch farchnata yn digwydd ar draws sianelau niferus, gyda hysbysebion yn ymddangos ar deledu prif ffrwd, ar blatfformau digidol ac mewn lleoliadau poblog.
Dechreuodd gyda lansiad yr ymgyrch ddigidol ar draws platfformau Meta ar 1 Tachwedd. Mae technoleg AdMaxim arbenigol yn cael ei ddefnyddio i fonitro nifer yr ymwelwyr i leoliadau masnach wedi’u targedu ac i fesur effaith hysbysebion ar-lein a hyrwyddiadau ar ddefnyddwyr.
Bydd hysbyseb teledu yn darlledu ar ITV Cymru o’r cyntaf o Ragfyr, a bydd cytundeb nawdd gydag S4C yn ymestyn cyrhaeddiad yr ymgyrch ymhellach.
Yn ogystal, bydd Cig Eidion Cymru yn glir i’w weld yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd yn ystod gemau rygbi Pencampwriaeth Rhyngwladol yr Hydref, gyda hysbysebion amlwg ar y gatiau tocynnau, gan gyrraedd miloedd o deithwyr a chefnogwyr rygbi wrth iddynt deithio i’r brif ddinas. Bydd hysbysfwrdd mawr wedi’i leoli ar Stryd Westgate.
Meddai Pip Gill, Arweinydd Ymgysylltiad Brand HCC:
“Mae wythnosau o weithgareddau hyrwyddo wedi’u cynllunio ac rydym wrth ein bodd i gael cymorth Lauren Price MBE. Gyda help arwr o’r byd chwaraeon a chan defnyddio cyfuniad o hysbysebu traddodiadol a digidol, rydym ni’n gobeithio annog defnyddwyr o bob oed ar draws Cymru i fwynhau Cig Eidion Cymru dros fisoedd y gaeaf.”
Bydd yr ymgyrch yn rhedeg rhwng 1 Tachwedd a chanol mis Ionawr. Gwelwyd ymgyrch y llynedd gan dros 1.5m o bobl ar draws Cymru, a arweiniodd at bron 50,000 o ymweliadau ychwanegol i wefan defnyddwyr HCC - Eat Welsh Lamb and Welsh Beef.





