Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Rhaid ystyried gwerth maethol cig wrth gymharu olion traed carbon – dyna’r neges allweddol o astudiaeth ddiweddar ar y cyd gan Hybu Cig Cymru (HCC), Prifysgol y Frenhines, Prifysgol Bangor a’r Sefydliad Amaeth-Bwyd a Biowyddorau (AFBI). Roedd y papur gwyddonol, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Frontiers in Sustainable Food Systems, yn canolbwyntio ar wahanol systemau o gynhyrchu cig oen – o systemau bugeiliol â mewnbwn isel i systemau â mewnbwn uwch wrth orffen pesgi. Hyd yn hyn, ni chafwyd unrhyw astudiaethau ynghylch effaith y diet pesgi ar ôl troed carbon cig oen o ran maeth. Gwnaed y gwaith hwn gan ddefnyddio data o’r prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru.

Dywedodd Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer Datblygu Polisïau a Phrosiectau yn y Dyfodol, Dr. Eleri Thomas, a gyd-ysgrifennodd y papur gwyddonol: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol y Frenhines, Prifysgol Bangor ac AFBI ar gyfer y papur hwn ac mae’r canlyniadau’n newyddion gwych i’r sector. Rydyn ni’n gwybod fod systemau cynhyrchu cig oen dan bwysau cynyddol i leihau eu hôl troed amgylcheddol, yn enwedig allyriadau nwyon tŷ gwydr. Fodd bynnag, yn anaml y bydd y metrigau cyfredol a ddefnyddir i fynegi ôl troed carbon cig oen yn ystyried ei ddwysedd maethol a’i gyfraniad at ddiet cytbwys mewn pobl.”

Gall cig oen fod yn ffynhonnell werthfawr o asidau brasterog amlannirlawn (PUFAau), megis asidau brasterog omega-3 ac omega-6, sy'n bwysig i iechyd pobl. Casglwyd data o 33 o ffermydd a oedd yn pesgi ŵyn ar un o bedwar diet gwahanol: cnydau porthiant, porfa, dwysfwydydd, neu borfa a dwysfwydydd. Defnyddiwyd y data er mwyn amcangyfrif ôl troed carbon y cig oen a gynhyrchwyd o bob system. Yna cafodd lefel y PUFAau mewn dau doriad pwysig o gig oen eu monitro, i ganfod yr ôl troed carbon mewn uned o PUFA omega-3. Pan ddefnyddiwyd uned weithredol gonfensiynol yn seiliedig ar fàs, roedd gan ŵyn  a gafodd eu pesgi ar ddietau porfa yr ôl troed carbon uchaf ar gyfartaledd; fodd bynnag, pan gyfrifwyd y cynnwys omega-3 PUFA, y diet porfa oedd â'r ôl troed carbon isaf ar gyfer toriadau o'r lwyn.

Dywedodd yr Uwch Swyddog Gwybodaeth am y Farchnad, Ymchwil a Datblygu yn HCC, Elizabeth Swancott: “Fel arfer, wrth asesu ôl troed carbon ffermydd, defnyddir unedau sydd yn seiliedig ar fàs, a all fod yn ddefnyddiol ar gyfer cymharu effeithlonrwydd systemau ffermio gwahanol; fodd bynnag, dydyn nhw ddim yn adlewyrchu sut mae systemau ffermio yn cael effaith ar wahaniaethau maethol y cynnyrch terfynol. Mae’r astudiaeth hon yn dangos pa mor bwysig yw ystyried maeth wrth fynegi a chymharu olion traed carbon bwydydd fel cig oen, sy’n cynnwys llawer o faetholion.”

Bydd y dull hwn yn helpu wrth ystyried y dietau gorau posibl ar gyfer systemau cynhyrchu cig oen – a hynny o safbwynt maeth pobl a chynaliadwyedd amgylcheddol.

Mae modd gweld holl gynnwys y papur yma: https://www.frontiersin.org/articles/10.3389/fsufs.2024.1321288/full

You may also like

HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad