Skip to content
HCC Trade

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Porc Blasus

Nod y Prosiect Rheoli Glaswellt Gwartheg Eidion yw tyfu mwy o laswellt ar y fferm a gwella’i ansawdd yn ogystal â’r modd y caiff ei ddefnyddio gan y gwartheg eidion

Drwy ddarparu i stoc laswellt o’r ansawdd gorau yn gyson drwy gydol y tymor pori, mae modd cael y cyfraddau tyfu gorau ar gyfer anifeiliaid sy’n pori o bob oedran. Dylai pori cylchdro i grwpiau gwahanol o wartheg alluogi ffermwyr i gael mwy o laswellt yn yr hydref. Bydd hyn yn ymestyn y tymor pori ac yn golygu bod glaswellt ar gael yn y gaeaf fel bod modd troi’r anifeiliaid allan yn gynnar ym mis Chwefror. Mae’r prosiect hwn yn cael ei gynnal ar Fferm Cilrhue, Boncath, Gogledd Sir Benfro, sy’n eiddo i Mrs BH Davies a’i meibion John ac Edward Davies, a nhw hefyd sy’n rheoli’r fferm. Maen nhw’n awyddus i weld faint o gostau y gellir eu harbed wrth fagu stoc hyd at y cyfnod pesgi gyda’r system hon, a gweld pa gyfraddau tyfu sy’n bosib.

Mae’r fferm yn ymestyn dros 214 erw o dir y maen nhw’n berchen arno, ynghyd â 93 erw o dir ychwanegol sy’n cael ei rentu fesul blwyddyn. Glaswellt sydd ar y fferm yn bennaf gyda thua 20 erw o gnwd cyfan yn cael ei dyfu yn yr haf ac yn cael ei hadu ar gyfer rêp er mwyn cadw gwartheg allan arno dros y gaeaf. Mae hyn hefyd yn ffurfio rhan o bolisi ail-hadu’r fferm. Maent yn cadw tua 600 o wartheg a lloi o wahanol oedrannau. Mae’r system ffermio yn golygu prynu lloi 7-10 diwrnod oed oddi ar ffermydd llaeth lleol, eu magu ar ddiet glaswellt/porthiant nes eu bod yn tua 24 mis oed a’u pesgi ar ddiet silwair glaswellt / cnwd cyfan / dwysfwyd i fynd yn syth i’w lladd. Mae’r stoc yn cael eu prynu mewn sypiau yn y gwanwyn a’r hydref ac maent yn cynnwys tri phrif fath o fridiau, sef croesfridiau gwartheg Henffordd, Ffriesian a Byrgorn Llaeth. Arferai’r stoc gael eu pori mewn grwpiau bach ar draws y fferm gyda thua 150 o’r gwartheg ‘mawr’ yn cael eu cadw mewn siediau â chiwbiclau a llawr slatiog a’u pesgi ar y cymysgedd silwair / cnwd cyfan / dwysfwyd. Mae tua 100 yn cael eu gaeafu allan ar rêp a byrnau silwair.

Ar gyfer y prosiect, mae tyfiant a maint y glaswellt yn cael eu mesur bob pythefnos (bob wythnos ym mis Mai) er mwyn cael gwybod faint mae’r glaswellt yn ei dyfu ac i ba badogau y dylid troi’r stoc. Gyda’r wybodaeth hon, gallwn hefyd gynllunio pa badogau sydd angen eu neilltuo ar gyfer silwair gan eu bod yn rhy gryf i’w pori, heb wneud y glaswellt yn brin! Yn ogystal â mesur twf a maint y glaswellt, cymerwyd hefyd samplau glaswellt bob mis i fonitro beth yw ansawdd y glaswellt sy’n cael ei roi o flaen y stoc pori. Er mwyn monitro cyfraddau tyfu’r stoc, maent yn cael eu pwyso unwaith y mis. I gynorthwyo gyda’r dasg hon mae’r teulu wedi buddsoddi mewn system adnabod electronig (EID) sy’n gwneud y gwaith o gasglu’r wybodaeth hanfodol hon yn gymharol hawdd. Bydd y ddyfais hon yn lawrlwytho i liniadur/llechen lle caiff y cyfraddau tyfu eu cyfrifo, a gallwch weld unrhyw rai ‘sydd ddim yn ei gwneud hi’ er mwyn iddynt allu cael ychydig yn fwy o faldod!

Hyd yma, mae twf y glaswellt wedi bod yn debyg i flynyddoedd blaenorol yn lleol hyd at fis Mawrth. Fodd bynnag, ym mis Ebrill gwelwyd twf cyflym iawn o dros 30% yn fwy nag arfer, gyda ffigurau mis Mai hefyd yn uwch na’r arferol. Er mwyn ymdopi â’r twf da, o ganlyniad i fesur y padogau, mae rhai wedi cael eu neilltuo ar gyfer silwair ac ychwanegwyd rhagor o wartheg at rai grwpiau o wartheg er mwyn cynyddu’r galw ar ardaloedd poripenodol.

Mae’r llun uchod yn dangos enghraifft dda o’r gorchudd glaswellt cyn ac ar ôl pori. Cafodd y darn sydd newydd ei bori ei bori i lawr i 1585 kgDM/ha gyda’r gwartheg wedi ei bori’n lân heb fynd yn brin o laswellt. Mae’r glaswellt y maent ynddo yn awr yn 2900 kgDM/ha – mae bron yn union lle dylai fod i gael ei bori heb fod yn rhy gryf. Ar ôl pwyso’r gwartheg ddechrau mis Mehefin, gallwn weld amrywiaeth yn eu twf o 1 kg/dydd i hyd at ffigur syfrdanol o 2.5 kg/dydd, gyda ffigwr cyfartalog ar gyfer 300 o anifeiliaid (rhwng 7 a 25 mis oed) o 1.6kg/dydd. Y cynllun yw cynnal y cyfraddau tyfu hyn drwy gyfrwng dulliau rheoli glaswelltir ardderchog gydol y tymor ac ymhell i mewn i dymor yr hydref.

Adroddiad Hanner ffordd drwy’r Prosiect Rheoli Glaswellt Gwartheg Eidion
Adroddiad llawn Prosiect Rheoli Glaswellt Gwartheg Eidion
Cynhyrchu cymaint â phosibl o laswellt ar gyfer gwartheg

Downloads

Adroddiad Hanner ffordd drwy’r Prosiect Rheoli Glaswellt Gwartheg Eidion
PDF Document
Adroddiad llawn Prosiect Rheoli Glaswellt Gwartheg Eidion
PDF Document
Cynhyrchu cymaint â phosibl o laswellt ar gyfer gwartheg
PDF Document