Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Gwelliannau Genetig

Drwy ddefnyddio’r eneteg orau sydd ar gael, gellir gwneud gwelliannau arwyddocaol i berfformiad a phroffidioldeb buchesi a diadelloedd. Ceir hefyd gyswllt cryf rhwng geneteg well mewn buchesi a diadelloedd ac allyriadau NTG is.

Byddai magu mwy o dda byw sy’n tyfu’n gynt ac yn bodloni gofynion y farchnad yn golygu bod yr allyriadau NTG am bob kg o gig oen ac eidion a gynhyrchir yn is a byddai’r cynhyrchiant yn fwy effeithlon hefyd.

Mae prynu stoc gyda’u perfformiad wedi’i gofnodi, gyda nodweddion a gydnabyddir fel nodweddion gwella cynhyrchiant, yn nod y dylai pob ffermwr anelu ato. O’i wneud yn gywir, defnyddio stoc gyda ffigurau perfformiad uchel yw’r adnodd unigol mwyaf effeithiol er mwyn cynyddu elw economaidd a gwella effeithlonrwydd y broses o gynhyrchu da byw. Mae’r tabl isod yn dangos y nodweddion perfformiad i’w dewis wrth ddewis tarw – mae gwybodaeth debyg ar gael ar gyfer defaid yng nghyhoeddiad HCC – ‘Llawlyfr Prynu Hwrdd’.

Ceir nodweddion perfformiad amrywiol i’w defnyddio ar gyfer gwella cynhyrchiant h.y. twf, cydffurfiad, maint y dorllwyth ac ati. Y peth pwysig yw deall y nodweddion a fydd yn gwella cynhyrchiant o ystyried y cyfyngiadau sydd yn eu lle ar gyfer pob fferm unigol; er enghraifft, mae’n bwysicach prynu hyrddod gyda ffigurau pwysau wyth wythnos uchel ar fferm tir isel sy’n wyna ddiwedd mis Ionawr nag ar fferm fynydd sy’n wyna yng nghanol mis Ebrill.