Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Defnydd Lapio Byrnau Silwair

Effaith y nifer o haenau o ddeunydd lapio silwair ar ansawdd microbiolegol a chemegol silwair

Nod y prosiect hwn yw dangos sut gall nifer yr haenau o’r deunydd lapio a roddir o amgylch glaswellt wedi’i fyrnu ar y fferm effeithio ar ansawdd cemegol a microbiolegol y silwair.

Pam mae’n bwysig?

Mae silwair byrnau mawr yn ffordd bwysig o gadw silwair glaswellt ar gyfer porthiant gaeaf yng Nghymru; mae tua 30% o’r silwair ar ffermydd defaid ac eidion yn cael ei gadw fel hyn. Caiff Listeria ei gysylltu’n gyffredin â byrnau silwair o ansawdd gwael ac mae’n un o brif achosion clefydau megis iritis mewn gwartheg ac erthylu mewn defaid.

Sut mae’r prosiect gweithio?

Mae i’r prosiect hwn ddwy ran. Bydd y gyntaf yn archwilio effaith lapio annigonol ar ansawdd y silwair. Er mwyn cadw silwair yn llwyddiannus, rhaid rhoi digon o ddeunydd lapio o amgylch y bwrn cyfan. Oni ddefnyddir y nifer gywir o droadau wrth anelu at bedair haenen o ddeunydd lapio, yna bydd rhannau o’r bwrn wedi’u gorchuddio â dwy haenen yn unig. Ar ôl cael eu storio am bum mis, caiff y byrnau eu hasesu ar gyfer sêl y deunydd lapio, llwydni gweladwy, cyfansoddiad cemegol a lefelau listeria.

Bydd ail ran y prosiect yn astudio sut mae defnyddio rhagor o haenau o ddeunydd lapio yn effeithio ar ansawdd y silwair. Caiff y byrnau eu lapio â 4, 6 neu 8 haenen o ddeunydd lapio ac wedyn ar ôl cael eu storio am chwe mis bydd sêl y deunydd lapio, y llwydni gweladwy a’r cyfansoddiad cemegol yn cael eu hasesu.

Pwy sy’n gwneud y gwaith?

Mae’r gwaith yn cael ei wneud yn IGER Aberystwyth.

Yn chwilio am rywbeth penodol Chwiliwch yma