Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Dro ar ôl tro profwyd bod cig coch yn chwarae rhan bwysig mewn diet cytbwys a iach – dyna yw neges allweddol Hybu Cig Cymru (HCC) mewn ymateb i adroddiad diweddar gan Brifysgol Caergrawnt sy’n awgrymu bod bwyta cig coch yn gysylltiedig â risg uwch o Glefyd y Siwgr.

Dywedwyd bod y canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn The Lancet Diabetes and Endocrinology (Dydd Mercher, 21 Awst 2024), yn amrywiol a heb fod yn bendant. Yn ogystal, adroddwyd bod arbenigwyr nad ydynt yn ymwneud â’r ymchwil wedi dweud taw dim ond cysylltiad sy’n cael ei brofi, ac nid achos, ac mae’r canlyniadau’n unol ag argymhellion cyfredol ar gyfer bwyta’n iach.

Wrth ymateb i’r newyddion o’i fferm yn Sir Fynwy, dywedodd Cadeirydd HCC, Catherine Smith: “Mae gan gig coch, fel rhan o ddiet cytbwys a iach, os yw’r maint iawn yn cael ei fwyta, lawer o fuddion iechyd i bobl o bob oed.  Dydy’r awgrymiadau a wneir yma ddim yn bendant a gall bwytawyr deimlo’n hyderus fod y rhan fwyaf o ddigon o wyddonwyr yn bositif ynghylch y cyfraniad maethol, ecolegol, amgylcheddol a moesegol sydd gan gig coch mewn cymdeithas.

“Mae cig coch heb lawer o fraster yn llawn fitaminau a mwynau hanfodol, ac o’i gyfuno â chynhwysion iach eraill, mae’n cyfrannu at iechyd da fel rhan o ddiet cytbwys. Y ffordd symlaf o fyw yn iach yw bwyta amrywiaeth o wahanol fwydydd, ac mae cig coch yn un math o fwyd a all ein helpu i gael digon o’r haearn, potasiwm, magnesiwm, sinc, Fitaminau B a Fitamin D drwy gydol ein hoes.

“Yn llawn dop o’r fitaminau a mwynau hanfodol hyn, gall diet cytbwys gyda chig coch heb lawer o fraster yn gnewyllyn iddo, ein helpu i gadw’n heini a iach drwy gydol ein hoes. Gall bwyta hyd at 500g o gig coch wedi'i goginio bob wythnos fod yn ganolog i ddiet iach a chytbwys.”

Mae cig coch hefyd yn cynnwys ffosfforws, sydd ei angen i dyfu’n normal a datblygu esgyrn mewn plant, ac mae’n llawn protein, sy'n ddelfrydol pan fydd cig eidion yn cael ei ffrio’n gyflym ar ôl sesiwn yn y gampfa i'ch helpu i ddadebru, i ddatblygu cyhyrau ac i deimlo'n llawn egni.

Mae cig coch heb lawer o fraster (cig eidion, cig oen a phorc) yn cynnwys llawer o brotein naturiol, hab fawr o halen, ac mae’n darparu amrywiaeth o fitaminau a mwynau hanfodol sy’n cynnwys Fitaminau B - B12, Niasin (B3), B6, Fitamin D a mwynau megis Haearn, Sinc a Photasiwm.

Ychwanegodd Mrs Smith: “Wrth defnyddio cynhwysion eraill yn lle cig coch, gallai pobl fod mewn perygl o golli rhai maetholion hanfodol y mae eu hangen ar y corff er mwyn cadw’n iach.”

Mae’r canllawiau cyfredol gan Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DG yn argymell ein bod yn bwyta tua 70g o gig coch y dydd neu 500g o gig coch wedi ei goginio bob wythnos (tua 750g o gig amrwd)/5 cyfran yr wythnos. Wrth gadw cyfrannau i faint eich llaw neu becyn o gardiau, a’u cyfuno ag amrywiaeth o gynhwysion iach eraill, gall pobl fwynhau pum pryd o gig coch yr wythnos.

Hefyd, cynghorir pobl i fwynhau toriadau heb lawer o fraster, defnyddio dulliau coginio iach ac ymatal rhag bwyta gormod o gig coch wedi’i brosesu.

You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol