Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Cynhaliwyd ail sesiwn grŵp Cig-weithio HCC yn Aberystwyth yn ddiweddar. Treuliwyd y bore yn cyfarfod arweinwyr yn y diwydiant a’r prynhawn yn canolbwyntio ar eneteg defaid.

Mae cynnig cyfle i’r aelodau greu cysylltiadau a datblygu eu dealltwriaeth o wahanol elfennau o’r gadwyn gyflenwi yn rhai o brif flaenoriaethau’r rhaglen, ac fe gynlluniwyd yr ail sesiwn i ateb y ddau bwrpas.

I gychwyn y diwrnod, cyfarfu’r grŵp yn swyddfa HCC i wrando ar dri siaradwr. Y cyntaf oedd José Peralta, Prif Weithredwr HCC a soniodd am ei gefndir a’i yrfa amrywiol yn niwydiant cig coch y DU. Amlinellodd ei rôl yn HCC a’i obeithion ar gyfer dyfodol y sefydliad a’r sector. Yn dilyn hynny, croesawyd Cadeirydd HCC, Catherine Smith a fu’n siarad am ei chyfrifoldebau fel Cadeirydd, rôl y Bwrdd a sut mae’n gweithredu.

Y trydydd siaradwr oedd Hazel Wright, rheolwr Canolfan Gwyddoniaeth Filfeddygol Cymru. Soniodd am ei chefndir ym maes polisi a’i swydd gyfredol ym maes iechyd anifeiliaid yn y Ganolfan. Pwysleisiodd bwysigrwydd cydbwysedd gwaith-bywyd ac am yr angen i fod yn angerddol am eich gwaith.

Yn y prynhawn, mwynhaodd y grŵp daith o amgylch Innovis, y cyflenwr arweiniol o dechnolegau bridio defaid i ddiwydiant da byw y DU. Arweiniwyd y sesiwn yma gan Dewi Jones - arweinydd arall yn y diwydiant a Phrif Weithredwr Innovis, a soniodd am ei gefndir a’r gwaith sy’n cael ei gyflawni yn Innovis. Siaradodd y genetegwr Janet Roden am ei gyrfa hithau ac yn fwy eang am eneteg defaid a’i rôl o fewn y diwydiant.

Meddai Erin McNaught, un o aelodau Cig-weithio:

“Roedd ein hail sesiwn yn cynnig mewnwelediad i’r gyrfaoedd amrywiol o fewn y diwydiant, gyda phrynhawn yn gweld cyfleusterau bridio Innovis ac yn dysgu am waith y sefydliad yn cefnogi’r sector defaid. Mwynheais y prynhawn yn Innovis, ac fe helpodd fi i benderfynu ar fy Mentor Cig-weithio, sef genetegwr o’r cwmni. Dw i’n edrych ymlaen at dreulio diwrnod gyda Janet Roden ac i ddysgu mwy am eneteg a sut y gallaf ddefnyddio’r wybodaeth adref ar y fferm.”

You may also like

HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad