Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae llawer iawn o bobl sy’n hoffi Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI yn cadw at eu hoff doriadau o gig er gwaethaf y wasgfa ariannol, yn ôl Kantar, yr ymchwilwyr i arferion defnyddwyr.

Dywedodd Avneet Chana, Cyfarwyddwr Mewnwelediad Strategol Kantar, wrth gynhadledd Hybu Cig Cymru (HCC) ym mis Tachwedd 2023 fod tua 97 y cant o’r holl aelwydydd yn dal i brynu cig coch er gwaethaf y pwysau ar gyllid y teulu.

Ychwanegodd Ms Chana, Pennaeth tîm Cig, Pysgod a Dofednod Kantar, fod bron i 85 y cant o’r holl gig coch yn cael ei fwyta “er mwynhad” ac mai dyma’r ysgogiad y tu ôl i werthiant parhaus ar adeg pan oedd y rhan fwyaf o bobl yn teimlo’r pwysau economaidd. “Un peth rydyn ni’n sylwi ym mhob ymchwil a wnawn yw ein bod ni’n gwneud pethau oherwydd ein bod yn eu mwynhau – fyddwn ni ddim yn bwyta rhywbeth os nad ydyn ni’n hoffi ei flas – ac mae hynny’n arbennig o wir am gig coch.

Dywedodd Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC, Laura Pickup, fod hyn yn cymeradwyo gwaith caled ffermwyr Cymru. Roedd hefyd yn cadarnhau canfyddiadau treialon blasu i ddefnyddwyr a drefnwyd gan Raglen Datblygu Cig Coch HCC ac yn dilysu’r gwaith helaeth a wnaed ar frandiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn y blynyddoedd diwethaf.

“Yn ein profion blasu, roedd bron i 2,000 o ddefnyddwyr wedi cymeradwyo breuder, suddlonder, blas ac arogl Cig Oen Cymru ac mae canfyddiadau’r arolwg hwn yn dangos bod miloedd yn cytuno â nhw,” meddai Ms Pickup.

Mae arolwg parhaus Kantar yn cynnwys tua 30,000 o gartrefi yn y DG sydd â defnyddwyr sy’n gynrychioliadol yn ddemograffig o ran oedran, ffordd o fyw a rhanbarth.

“Mae ein harolwg parhaus yn dangos mai dim ond tua 28,000 o gartrefi yn y DG roddodd y gorau i brynu cig coch yn 2023 – ac mae hynny’n ostyngiad bychan iawn pan ystyriwn fod dros 60 miliwn o bobl yn byw yn y DG,” meddai Ms Chana.

Ychwanegodd fod pris cig coch wedi cynyddu 11.5 y cant yn 2023 a gwelwyd hefyd gynnydd o 8.9 y cant mewn gwariant; fodd bynnag, cafwyd gostyngiad o 2.4 y cant mewn cyfaint. Dywedodd fod rhai categorïau o gig coch yn cynyddu o ran gwerthiant, gan gynnwys asennau porc (i fyny 9.5 y cant), briwgig (i fyny 3.1 y cant) a selsig (i fyny 2.2  y cant).

“I roi’r cynnydd mewn prisiau yn ei gyd-destun, gadewch i ni ei gymharu â chynnyrch llaeth, er enghraifft, lle gwelwyd cynnydd o 20.8 y cant - a chynnyrch ffres a welodd gynnydd o 8.5 y cant,” meddai.

Yn ôl Ms Chana, roedd yn galonogol bod chwyddiant prisiau yn gostwng erbyn hyn. Mae ein harolwg yn rhoi darlun o’r hyn y mae pobl yn ei wneud, eu tueddiadau siopa, eu barn am yr economi ac yn dangos a oedden nhw’n cael trafferth, yn ymdopi neu’n gyfforddus.

“Roedd nifer gynyddol yn dweud eu bod yn cael trafferth a llai yn teimlo eu bod yn gyfforddus – ac yn naturiol roedd hynny’n cael effaith ar eu hymddygiad; gwelsom newid a phobl yn dechrau gwario llai ar draws y farchnad.

“Fodd bynnag, mae rhywfaint o dystiolaeth bellach bod yr ymddygiad hwnnw’n dechrau arafu ychydig. Am y tro cyntaf mewn blwyddyn, mae chwyddiant yn gostwng ac mae hynny'n arwyddocaol," meddai.

You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol