Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn annog ffermwyr defaid a chig eidion o bob cwr o Gymru i lenwi holiadur byr i amlinellu’r heriau sy’n eu hwynebu ar hyn o bryd o fewn y sector cig coch.

Pwrpas yr ‘Holiadur Bwriadau Ffermwyr’ blynyddol ydy asesu’r heriau cyfredol sy’n effeithio ar fusnesau ffermio o fewn y sector, ac i ddeall cynlluniau busnes a fydd yn helpu i lywio trafodaethau yn y dyfodol.

Mae modd llenwi’r holiadur ar-lein dros gyfnod o bythefnos, o ddydd Llun 9 Medi tan ddydd Llun 23 Medi, gan ddefnyddio’r ddolen ganlynol: https://www.surveymonkey.com/r/phase3CYM

Meddai Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes HCC, Glesni Phillips: “Mae cynnydd mewn chwyddiant a chynnydd mewn costau mewnbynnau wedi bod yn gryn her i’r sector amaethyddol yn y blynyddoedd diwethaf ac wedi achosi cymhlethdodau i ffermwyr Cymru wrth geisio gwneud penderfyniadau. Er mwyn gallu deall y problemau yma’n well, rydym ni wedi creu holiadur i asesu’r sefyllfa fel mae hi rŵan.

“Dyma’r trydydd ‘Holiadur Bwriadau Ffermwyr’ i ni yn HCC ei gynnal. Mae’n ein galluogi i gasglu gwybodaeth gyfredol a llunio darlun ar draws y sector o’r heriau sy’n wynebu ffermwyr a sut maen nhw’n amrywio o flwyddyn i flwyddyn.

“Dangosodd canlyniadau’r holiadur cyntaf bod pryderon yn ymwneud â chostau mewnbynnau yn uchel, ac roedd pryder y byddai cyfraddau sganio isel, o ganlyniad i’r tywydd garw, yn cael effaith ar niferoedd y diadelloedd yn y flwyddyn ganlynol.

“Er hynny, dangosodd canlyniadau holiadur y llynedd bod y pwysau ar niferoedd o fewn diadelloedd Cymru wedi codi rhywfaint, a bod pryderon ffermwyr am gostau uchel mewnbynnau wedi cilio. Roedd gwelliant sylweddol ym mwriadau cynhyrchwyr.

“Er mwyn parhau â’r ymchwil yma, fe hoffem ni weld ffermwyr dros Gymru yn cwblhau’r holiadur newydd fel y gallwn ystyried yr heriau diweddaraf o fewn y sector ac ystyried sut mae bwriadau ffermwyr yn debygol o effeithio ar y dyfodol. Bydd hyn yn ein helpu ni, a’r sector yn ehangach, i baratoi a chynhyrchu rhagolygon am y flwyddyn i ddod ar lefel stocio a’r cyfaint o gig coch fydd ar gael i gwsmeriaid.”

Ychwanegodd Glesni: “Mae’r holiadur yn rhwydd i’w ateb ac ni ddylai gymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau. Ar ôl hynny, bydd eich enw’n cael ei roi mewn het am gyfle i ennill taleb cig gwerth £50.”

You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol