Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn paratoi ar gyfer pennod newydd gyffrous wrth i bedwar cyfarwyddwr anweithredol newydd ymuno â’r Bwrdd, gan ddod ag egni newydd a dealltwriaeth gref o’r diwydiant. Mae eu cyrhaeddiad yn amserol, gan gyd-daro â chyhoeddiad cynllun strategol newydd HCC ar gyfer y diwydiant, Gweledigaeth y Diwydiant Cig Coch: Darparu Gwerth i Gymru’, sy’n gosod blaenoriaethau gyda ffocws pendant ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau penodiad Darren Williams, Wyn Owen, Jon Tanner a Sophie Nixon, yn dilyn ymgyrch recriwtio. Yn weithredol o fis Ebrill 2026, bydd yr unigolion yma’n ymuno â’r bwrdd ardoll cig coch fel cyfarwyddwyr anweithredol, gan gydweithio gyda’r aelodau presennol dan arweinyddiaeth Catherine Smith.
Wrth gyhoeddi’r aelodau newydd i Fwrdd HCC, meddai’r Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies AS: "Rwy’n falch i groesawu Darren Williams, Jon Tanner, Sophie Nixon a Wyn Owen i Fwrdd Hybu Cig Cymru. Bydd eu harbenigedd yn amhrisiadwy wrth gefnogi nod HCC o gryfhau sector cig coch Cymru. Bydd gan y Bwrdd rôl hanfodol o ran cynnig arweiniad strategol a herio’r tîm gweithredol, yn enwedig ar faterion fel cynllunio hirdymor, llywodraethiant a marchnata, yn ogystal â chynnal ymgysylltiad clir ac uniongyrchol gyda thalwyr ardoll.
“Bydd eu cryfderau mewn effeithiolrwydd y gadwyn gyflenwi, cynaliadwyedd, marchnata, llywodraethiant ac ymgysylltu gyda thalwyr ardoll yn hollbwysig ar gyfer cyflawni uchelgais Gweledigaeth 2030 HCC. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddynt ar gychwyn eu cyfnod.”
Ychwanegodd Cadeirydd HCC Catherine Smith: “Rwy’n edrych ymlaen at groesawu Darren, Wyn, Jon a Sophie i Fwrdd HCC. Mae eu profiadau amrywiol a’u dealltwriaeth o’r diwydiant yn hynod o berthnasol i’r tair blaenoriaeth a gaiff eu hamlinellu yn ein cynllun gweithredu strategol a gyhoeddwyd yn ddiweddar - ‘Gweledigaeth y Diwydiant Cig Coch: Darparu Gwerth i Gymru’. Bydd eu cyfraniadau’n amhrisiadwy wrth i ni weithio gyda’r tîm yn HCC i weithredu ar ein gweledigaeth am ddiwydiant cig coch cystadleuol, proffidiol, effeithlon a chynaliadwy i Gymru.”
Mae Darren Williams yn ffermwr tenant da byw cymysg yn Aberhonddu, Powys. Mae ei ffocws ar ddatblygu system ffermio sy’n fwy cynaliadwy ac mae’n cynrychioli cynhyrchwyr de Cymru ar bwyllgor Grŵp Ŵyn Cynaliadwy Tesco. Mae wedi ymgymryd â sawl rôl o fewn y diwydiant a llywodraethiant ym myd amaeth Cymru, yn cynnwys fel aelod o fwrdd Undeb Amaethwyr Cymru. Cyfrannodd Darren at Ford Gron y Cynllun Ffermio Cynaliadwy fel ffermwr annibynnol, roedd ar y panel atafaelu carbon ac mae’n Fforman Gwartheg i Sioe Frenhinol Cymru ers dros 20 mlynedd.
Mae Wyn Owen yn bartner rheoli fferm ei deulu yng Nghanolbarth Cymru ac yn ymgynghorydd llawrydd. Mae wedi cyfrannu dros ddau ddegawd tuag at gyflawni nifer o brosiectau Cyswllt Ffermio, yn fwyaf nodedig Agrisgôp, ac mae’n ddarlithydd cysylltiol ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Wrecsam. Mae gan Wyn brofiad helaeth hefyd fel Cadeirydd cymdeithasau amrywiol a byrddau llywodraethu, ac fel aelod o Fwrdd Ysgoloriaethau Rhyngwladol Nuffield a Llywodraethwyr Cymru. Ar hyn o bryd, mae’n Ymddiriedolwr y Rhwydwaith Cymdeithas Ffermio.
Mae Jon Tanner wedi gweithio yn y sector ffermio, gyda da byw yn enwedig, ers 40 mlynedd. Bu’n Gadeirydd, Cyfarwyddwr a Phrif Weithredwr sefydliadau o fewn y diwydiant ac mae ganddo brofiad sy’n ymestyn dros ffermio yng Nghymru ac ymchwil da byw dros y byd i arwain cyrff ardoll, ffermio a choedwigaeth yn Seland Newydd. Gyda chefndir mewn gwyddor amaethyddol, mae o wedi cyfarwyddo ymchwil ar sut mae da byw yn helpu ffermwyr i addasu i newid hinsawdd ac mae’n dod â phrofiad o oresgyn rhwystrau i fasnachu, cytundebau masnach rydd ac adeiladu cysylltiadau masnachol.
Mae Sophie Nixon yn Rheolwr Categori gyda gyrfa wedi’i wreiddio yn sector bwyd-amaeth y DU. Dechreuodd ei siwrne yn y diwydiant cynnyrch ffres ac mae hi wedi gweithio ers 2017 mewn swyddi marchnata a chategori ar draws y gadwyn gyflenwi dofednod a chig coch, gan ddatblygu mewnwelediad cryf i ymddygiad defnyddwyr, deinameg y farchnad a chymhlethdodau cynhyrchu bwyd. Mae gan Sophie brofiad hefyd mewn marchnadoedd domestig a rhyngwladol, yn cynnwys gweithio ym maes ymchwil y farchnad a mewnwelediad sydd wedi lledu ei phersbectif ar fasnach byd eang ac esblygiad cyfleoedd a heriau sy’n wynebu amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae hi’n gyn Llysgennad i’r NFU a chyn-aelod Academi Amaeth.
Mae’r pedwar yn cychwyn yn eu swydd newydd ar 1 Ebrill 2026.
You may also like




