Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Bydd Cig Oen Cymru PGI yn llenwi'r sgrin fawr unwaith eto'r haf hwn wrth i Hybu Cig Cymru (HCC) gynnal ei ymgyrch amlgyfrwng flynyddol i hyrwyddo Cig Oen Cymru mewn cartrefi ledled Cymru a Lloegr.

Yn nhrydedd ran yr ymgyrch 'Arbenigwyr yn eu Maes', mae HCC yn gosod ffermwyr Cymru ar flaen y gad yn eu hysbysebu. Mae ffermwyr o Ddinas Mawddwy, Lisa a Ken Markham, yn ymddangos yn hysbyseb deledu HCC sy'n rhedeg am sawl mis ar sianeli S4C a Sky, tra bod Emily Jones o Geredigion a Ben ac Ethan Williams o Gaerdydd yn ymddangos yn agweddau digidol yr ymgyrch.

Mae 'Arbenigwr ar y maes' ychwanegol wedi ymuno â'r ymgyrch eleni, sef cyn-chwaraewr rygbi Cymru a'r Llewod Prydeinig, Jonathan 'Fox' Davies. Yn ogystal â bod yn rhan o’r cynnwys cyfryngau cymdeithasol, ymunodd Jonathan hefyd â HCC ar eu stondin yn Sioe Frenhinol Cymru yn gynharach eleni.  Wrth siarad am gael ei benodi’n llysgennad brand i Gig Oen Cymru, dywedodd Jonathan:

“Fel Cymro balch, a rhywun sy’n dwlu ar ei fwyd, mae’n wych bod yn gweithio gyda Chig Oen Cymru. Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw treftadaeth ffermio i’n cymunedau gwledig a’r rhan y mae’n ei chwarae wrth gadw’r economi a’r cymunedau’n fyw.

“Fel rhywun sydd wedi teithio llawer gyda rygbi, rydw i wedi gweld sut mae Cig Oen Cymru’n cael ei barchu ledled y byd. Gyda iechyd a ffitrwydd hefyd yn bwysig i fi, rwy’n edrych ymlaen at ddangos nad yw cael diet iach a chytbwys, gyda bwyd fel Cig Oen Cymru, yn golygu gorfod cyfaddawdu ar ansawdd na blas.

Dywedodd Arweinydd Ymrwymiad Brand HCC, Pip Gill:  “Mae ein hymgyrch Arbenigwyr yn eu Maes wedi taro nodyn da gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru a Lloegr ac wedi gwneud lles o ran sut mae pobl yn ystyried dulliau ffermio yng Nghymru yn ogystal â Chig Oen Cymru fel cynnyrch.

“Rydym wrth ein bodd bod Jonathan yn ymuno â ni fel llysgennad brand eleni. Yr un fath â’n ffermwyr, mae Jonathan yn arbenigwr yn ei faes ac fel Cig Oen Cymru, mae ganddo enw da ledled y byd. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag ef dros y misoedd nesaf wrth i ni hyrwyddo Cig Oen Cymru.”

I gyd-fynd â’r cyfnod pan fydd Cig Oen Cymru ar ei anterth, mae'r ymgyrch yn para drwy’r haf a'r hydref. Bydd hysbysebu digidol ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Instagram a Linkedin yn digwydd drwy gydol yr ymgyrch, yn ogystal â hysbysebu wedi'i dargedu mewn cydweithrediad ag archfarchnadoedd sy'n gwerthu Cig Oen Cymru ledled Cymru a Lloegr.

I gael gwybodaeth bellach am Gig Oen Cymru ac i weld ryseitiau diweddaraf HCC, dilynwch Gig Oen Cymru ar Facebook ac Instagram neu ewch i www.eatwelshlambandwelshbeef.com

You may also like

HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad