Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi rhyngwladol yn cynnwys Cig Oen Cymru
By Nia
Roedd Cig Oen Cymru yn serennu mewn nifer o ddigwyddiadau tramor i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, yn cynnwys derbyniad yn Hong Kong, cinio yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Dubai gyda golwython cig oen wedi’u coginio gan y Chef Russel Impiazzi, ac un o brif ddigwyddiadau Gŵyl Ddewi Ewrop a gynhaliwyd ym Mrwsel. Mae’r digwyddiad pwysig yn y Breswylfa Brydeinig ym Mrwsel yn croesawu tua 250 o westeion adnabyddus, yn cynnwys unigolion o sefydliadau Ewropeaidd, rhwydweithiau rhanbarthol, y sector masnach a buddsoddi, academia, Cymry ar wasgar, a sefydliadau partner allweddol. Cynhaliwyd digwyddiad coginio arall yn y breswylfa Brydeinig yn Rhufain a ddaeth a nifer o gynrychiolwyr sefydliadol, unigolion o’r cyfryngau a chynrychiolwyr o’r sector breifat ynghyd. Roedd bwydlen y noson yn daith drwy flasau, symbolau a straeon Cymru a hynny i gyfeiliant cerddoriaeth Gymreig. Fe gafodd Cig Oen Cymru, a gyflenwyd gan HCC, ei weini fel y prif gwrs gyda dau bryd gan gogydd seren Michelin: lwyn Cig Oen Cymru PGI mewn crwst, a prosciutto Cig Oen Cymru PGI gyda finegr balsamig a mwstard. Yn wir, mae’r ail bryd yn addas ar gyfer y Teulu Brenhinol – fe’i crëwyd i’w hanrhydeddu ac fe gafodd ei weini am y tro cyntaf i’r Brenin Charles III yn 2009, ac eto yn 2025.
