Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website

Hybu Cig Cymru yn Arddangos Cig Oen Cymru PGI yn Foodex Japan 2026

By Nia

Bydd Hybu Cig Cymru (HCC) yn cynrychioli Cig Oen Cymru PGI yn Foodex Japan 2026, sy’n cael ei gynnal yng Nghanolfan Arddangos Tokyo Big Sight rhwng 10-14 Mawrth. Bydd HCC yn bresennol fel rhan o ddirprwyaeth Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru, gan gryfhau presenoldeb Cymru mewn un o’i marchnadoedd byd-eang pwysicaf.  Mae Japan yn dal i fod ymhlith tair marchnad premiwm ryngwladol i HCC ac yn parhau’n flaenoriaeth ar gyfer datblygiad strategol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae presenoldeb brand Cymru wedi tyfu’n sylweddol, gyda gwerthiant Cig Oen Cymru yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn.  Bydd y cogydd Cymreig a Dirprwy Lywydd Cymdeithas Goginio Cymru, Colin Gray, yn paratoi samplau o Gig Oen Cymru fel rhan o gynnig ehangach o fwyd Cymreig, gan gyflwyno ansawdd, blas a tharddiad Cig Oen Cymru i brynwyr o Japan. 

Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi rhyngwladol yn cynnwys Cig Oen Cymru

By Nia

Roedd Cig Oen Cymru yn serennu mewn nifer o ddigwyddiadau tramor i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, yn cynnwys derbyniad yn Hong Kong, cinio yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Dubai gyda golwython cig oen wedi’u coginio gan y Chef Russel Impiazzi, ac un o brif ddigwyddiadau Gŵyl Ddewi Ewrop a gynhaliwyd ym Mrwsel. Mae’r digwyddiad pwysig yn y Breswylfa Brydeinig ym Mrwsel yn croesawu tua 250 o westeion adnabyddus, yn cynnwys unigolion o sefydliadau Ewropeaidd, rhwydweithiau rhanbarthol, y sector masnach a buddsoddi, academia, Cymry ar wasgar, a sefydliadau partner allweddol.   Cynhaliwyd digwyddiad coginio arall yn y breswylfa Brydeinig yn Rhufain a ddaeth a nifer o gynrychiolwyr sefydliadol, unigolion o’r cyfryngau a chynrychiolwyr o’r sector breifat ynghyd. Roedd bwydlen y noson yn daith drwy flasau, symbolau a straeon Cymru a hynny i gyfeiliant cerddoriaeth Gymreig. Fe gafodd Cig Oen Cymru, a gyflenwyd gan HCC, ei weini fel y prif gwrs gyda dau bryd gan gogydd seren Michelin: lwyn Cig Oen Cymru PGI mewn crwst, a prosciutto Cig Oen Cymru PGI gyda finegr balsamig a mwstard. Yn wir, mae’r ail bryd yn addas ar gyfer y Teulu Brenhinol – fe’i crëwyd i’w hanrhydeddu ac fe gafodd ei weini am y tro cyntaf i’r Brenin Charles III yn 2009, ac eto yn 2025. 

EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr

By Nia

Mae’r system symudiadau defaid, geifr a cheirw electronig i Gymru, EIDCymru yn nodi ei ben-blwydd yn ddeng mlwydd oed gyda datblygiadau mawr yn ystod y flwyddyn. Mae EIDCymru yn darparu system cofnodi symudiadau electronig modern a chadarn, a fyddai’n galluogi ymateb cyflym ac effeithiol mewn cyfnodau o glefyd. Mae’n galluogi ceidwaid i gofnodi symudiadau yn … Continued

Bord Gron y Bridwyr Defaid – dyddiad i’r dyddiadur!

By Nia

Mae’r paratoadau ar y gweill ar gyfer cynhadledd Bord Gron y Bridwyr Defaid: Datrysiadau bridio mewn byd sy’n newid – digwyddiad a gynhelir bob yn ail flwyddyn ar gyfer y diwydiant defaid.   Fe’i gynhelir dros dri diwrnod yng nghanolbarth Lloegr rhwng 20-22 Tachwedd 2026. Anogir unrhyw un â diddordeb yn y sector defaid i fynychu ac elwa o’r trafodaethau diddorol ar heriau a chyfleoedd y dyfodol, yn ogystal â gwybodaeth a chyngor ymarferol.   Bydd y datblygiadau diweddaraf mewn geneteg a’u heffaith ar y gadwyn gyflenwi’n cael eu hystyried, yn ogystal â phynciau eraill yn cynnwys proffidioldeb, cynaliadwyedd, iechyd, yr amgylchedd a lleihau carbon.   Os hoffech chi ymuno â HCC fel noddwr i’r digwyddiad, mae mwy o wybodaeth a rhaglen ddrafft ar gael ar y we: Sheep Breeders Round Table 2026 | AHDB  

HCC yn arddangos Cig Oen Cymru yn Dubai

By Nia

Bydd corff ardoll cig coch Cymru, Hybu Cig Cymru (HCC), yn mynychu sioe fasnach enwog Gulfood a gynhelir yn Dubai rhwng 26-30 Ionawr i hyrwyddo Cig Oen Cymru PGI i gynulleidfa fyd-eang. Bydd gan HCC bresenoldeb yn Neuadd Gig Gulfood yn ogystal ag ar stondin Llywodraeth Cymru  yn y Pafiliwn Rhyngwladol – gan sicrhau presenoldeb … Continued

HCC yn cydweithio gydag S4C dros y Nadolig

By Nia

Bydd brand Cig Eidion Cymru yn cael ei hyrwyddo ar S4C drwy gydol fis Rhagfyr fel rhan o ymgyrch farchnata amlgyfrwng dan arweiniad Hybu Cig Cymru (HCC).   Mae ein partneriaeth gyda S4C yn golygu y bydd hysbyseb Cig Eidion Cymru yn cael ei weld gan gynulleidfa’r sianel yn rheolaidd. Bydd yn cael ei ddarlledu ar amseroedd amrywiol yn ystod y dydd gan ymddangos ar ddiwedd rhaglenni hefyd. Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu i gryfhau ymwybyddiaeth brand ac atgyfnerthu ein neges i gynulleidfa eang.   Meddai Pip Gill, Arweinydd Ymgysylltu Brand yn HCC: “Rydym ni wedi bod yn lwcus i sicrhau platfform gwych i hyrwyddo brand Cig Eidion Cymru ar amser pan mae pobl yn edrych ymlaen at dreulio amser o flaen y teledu. Wrth ymddangos ar S4C yn ystod Rhagfyr, ein gobaith yw annog cwsmeriaid o bob oed i brynu Cig Eidion Cymru, naill ai ar gyfer pryd gaeafol blasus i fwydo’r teulu neu i’w fwynhau yn lle’r twrci traddodiadol.  “Mae ymchwil yn dangos bod defnyddwyr yn fwy tueddol i gefnogi cynnyrch lleol adeg y Nadolig, ac felly dyma’r cyfnod perffaith i fod yn hysbysebu Cig Eidion Cymru.”  Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: “Rydym yn ddiolchgar i Hybu Cig Cymru am noddi’r wledd o gynnwys Nadolig ar S4C eleni, gan ddod â dau o hanfodion yr ŵyl ynghyd – bwyd da a theledu difyr.  “Mae gan S4C rywbeth at ddant pawb y Nadolig hwn, i’w fwynhau ar draws ein platfformau.”  Dim ond un elfen o’r ymgyrch yw’r … Continued

HCC yn Ffair Aeaf CAFC

By Nia

Bydd tîm Hybu Cig Cymru (HCC) yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd wythnos nesaf, ac yn edrych ymlaen at gael cwmni cigyddion, ysgolorion a bocsiwr proffesiynol! Mae rhaglen brysur o ddigwyddiadau wedi’i chynllunio i arddangos nodweddion unigryw cig coch Cymru a sut y gellir ei fwynhau dros y Nadolig. Bydd trelar coginio HCC, a fydd … Continued

Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025

By Nia

Bydd Stocrestr Flynyddol o Ddefaid a Geifr 2025 ar gael o 1 Rhagfyr 2025 a bydd angen i geidwaid ei gwblhau erbyn 31 Rhagfyr. Mae’n gofyn am nifer y defaid a/neu eifr yn eu perchnogaeth ar bob daliad ar 1 Rhagfyr, yn cynnwys ar dir comin ac unrhyw ddaliad dros dro. Meddai Arweinydd EIDCymru, Gwion … Continued

Ymateb cadarnhaol i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn Anuga

By Nia

Mwynhaodd prynwyr ac allforwyr cig o bob cwr o’r byd y cyfle i flasu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn ffair fasnach Anuga yn yr Almaen fis diwethaf. Roedd presenoldeb HCC yn y digwyddiad yn gynhyrchiol; cynhaliwyd cyfarfodydd niferus gyda chwsmeriaid presennol, a gwnaed cysyllytiadau gyda chwsmeriaid newydd a ymatebodd yn ffafriol i … Continued