Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Gallai’r farchnad gig eidion weld mwy o sefydlogrwydd yn 2025 yn sgil llai o effeithiau economaidd a phroblemau cyflenwad.

Mae dadansoddiad gan Hybu Cig Cymru (HCC) o ddata sy’n dangos tueddiadau o ran cyflenwad a manwerthu yn awgrymu y gallai’r darlun hirdymor ar gyfer prisiau cig eidion wella ar ôl y profiad presennol o ostyngiadau bach o wythnos i wythnos.

“Mae sawl ffactor yn cyfrannu at y cymhwyso tuag i lawr cyfredol, bron yn wythnosol,  ym mhrisiau gwartheg dethol,” esboniodd Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes Hybu Cig Cymru (HCC). Maen nhw’n cynnwys cynnydd yn y cyflenwad domestig tymor-byr; mwy o wartheg yn cael eu mewnforio o Iwerddon a gwerthu araf yn y siopau.

“Rhaid cofio cefndir hyn i gyd, sef prisiau uwch i’r ffermwr dros y blynyddoedd diwethaf ac yn enwedig oddi ar 2020; felly, mae’r cyfartaledd sylfaenol yn dal i fod yn sylweddol uwch na’r cyfartaleddau hanesyddol.”

Dywedodd fod effeithiau buddiol y prisiau uwch hyn wedi cael eu “negyddu rhywfaint gan gostau uwch mewnbynnau allweddol y cynhyrchwyr cig eidion, sydd wedi digwydd oherwydd cyfraddau chwyddiant enfawr, sydd wedi rhoi pwysau ar broffidioldeb busnesau”.

Ddechrau’r flwyddyn roedd prisiau pwysau marw bustych yn agos at £4.90/kg, gan gyrraedd uchafbwynt o £4.95 ar ddechrau mis Mawrth, ond bob wythnos ers hynny gwelwyd gostyngiad yn y swm presennol o bron i £4.77/kg. Yr un fu’r duedd gyda heffrod a theirw ifainc hefyd, gyda heffrod ar hyn o bryd oddeutu £4.74 (7c yn is na’r llynedd) a theirw ifanc oddeutu £4.68 (- 9c.). Mae’n wahanol ar y cyfan gyda buchod difa, fodd bynnag, gyda phrisiau tua £3.59/kg, sef rhyw 45c yn uwch na’r cyfartaledd a gofnodwyd yn ystod wythnos gyntaf mis Ionawr.

O ran cyflenwad, mae’r data sydd ar gael yn dangos y bydd y cynnydd bychan yn nifer y gwartheg cig eidion dethol a gwartheg llaeth gwryw 12-30 mis oed yn parhau yn y tymor byr, gyda phosibilrwydd o ddau y cant yn fwy o gyflenwad na’r llynedd – tua 1.8 miliwn ar 1 Ebrill. 2024 (yn ôl BCMS).

Fodd bynnag, mae’r tueddiadau o ran y fuches fagu dros y degawd diwethaf yn dangos dirywiad nodedig, yn bennaf oherwydd cyfuniad o ffactorau economaidd, polisi, technolegol ac amgylcheddol sy’n rhoi pwysau ar y sectorau cig eidion a llaeth. “Mae’r rhain yn cynnwys costau cynhyrchu uchel, marchnad anwadal, newidiadau yng nghymorthdaliadau’r llywodraeth, cyfyngiadau amrywiol oherwydd TB a phwysau amgylcheddol,” meddai Glesni. Cafodd hyn ei liniaru’n rhannol gan ddatblygiadau technolegol a gwell arferion rheoli buchesi.  O ganlyniad, mae cynhyrchiant cig eidion wedi bod yn gymharol sefydlog er gwaethaf crebachu’r fuches.

“Yn yr hirdymor – o edrych ar ddiwedd y flwyddyn hon ac i mewn i 2025 - disgwylir i'r ffactorau hyn gael effaith ar gyflenwadau domestig. Mae’r data ar gyfer Prydain yn awgrymu y gallai cyflenwad y gwartheg cig eidion dethol a gwartheg llaeth gwryw 0-12 mis oed fod yn dri y cant yn llai na’r llynedd, sef 1.9 miliwn o wartheg,” meddai Glesni.

Roedd y gostyngiad hwn yn niferoedd y stoc ifanc i’w ddisgwyl gan fod y gostyngiad yn niferoedd y lloi a anwyd ym Mhrydain y llynedd yn fwy nag yn y blynyddoedd blaenorol. Rydyn ni wedi gweld y duedd hon yn parhau yn ystod chwarter cyntaf 2024, sy’n awgrymu y bydd y cyflenwad yn nes ymlaen yn parhau’n gyfyngedig.

“Mae’r ffactorau cyfrannol hyn i gyd, wrth iddyn nhw dreiddio drwodd, yn awgrymu y bydd mwy o sefydlogrwydd yn y farchnad tua diwedd 2024” meddai Glesni.


You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol