Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Mae prosiect RamCompare yn dathlu ei ddegfed pen-blwydd eleni wrth iddo chwilio am hyrddod ychwanegol i ymuno â’r tymor bridio newydd.

Mae’r prawf epil cenedlaethol, a lansiwyd yn 2015 ac sy’n cael ei ariannu ar y cyd gan Hybu Cig Cymru (HCC) a’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), ag angen hyrddod neu semen o fridiau hyrddod cig sydd wedi’u cofnodi am berfformiad.

Dywedodd Bridget Lloyd, cydgysylltydd prosiect RamCompare: “Dyma gyfle gwych i fridwyr. Bydd profi geneteg eu hyrddod o fewn y prawf epil cenedlaethol yn rhoi data pwysig iddyn nhw i’w ddefnyddio i hybu gwerthiant hyrddod yn y dyfodol.

“Mae gwella effeithlonrwydd a lleihau costau yn allweddol i unrhyw fusnes. Mae enwebu hyrddod ar gyfer RamCompare yn rhoi cyfle unigryw i fridwyr gasglu gwybodaeth a all ddangos sut y gallai eu hyrddod fod o fudd i fentrau unigol ar gyfer darpar brynwyr.”

Mae’r ffermwr Robert Gregory o Amwythig wedi cyflenwi nifer o hyrddod i ffermydd yng Nghymru sy’n ymwneud â RamCompare. Mae’n cynhyrchu hyrddod Charollais cofnodedig ar gyfer bridwyr pedigri a masnachol ac mae’n cofnodi gyda Gwasanaethau Bridio Signet ers dros ugain mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwelodd gynnydd graddol yng nghyfradd twf a dyfnder cyhyrau ei hyrddod, ynghyd â gostyngiad mewn lefelau braster

Dywedodd: “Rydw i wedi cyfrannu hyrddod at y prosiect ers nifer o flynyddoedd gan fy mod yn teimlo bod hynny’n rhoi gwybodaeth wirioneddol dda i ffermwyr defaid masnachol ar gyfer penderfyniadau ynghylch bridio. Byddwn yn annog y sector defaid yng Nghymru i elwa ar yr holl waith cofnodi perfformiad y mae bridwyr yn ei wneud a defnyddio’r data i hybu geneteg diadelloedd defaid ar gyfer y dyfodol.”

Ers lansio RamCompare, cafodd dros 503 o hyrddod eu profi, gan gynhyrchu mwy na 48,000 o ŵyn, a helpu ffermwyr i ddewis hyrddod â pherfformiad da.  Mae eu hepil yn darparu carcasau gwerthfawr ac mae’r costau cynhyrchu yn is.

Mae'r prosiect yn profi hyrddod cig â Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBVau) sydd ymhlith 20% uchaf eu brid. Dylai'r hyrddod ar gyfer cenhedlu naturiol fod yn hyrddod un-cnaif neu’n hyrddod stoc sydd â iechyd da. Mae croeso i hyrddod stoc hŷn os ydynt yn holliach ac yn ffrwythlon. Mae'r prosiect hefyd yn prynu semen wedi'i rewi mewn pecynnau o 30 dos i'w ddefnyddio drwy semenu artiffisial.

Dywedodd Dr Heather McCalman, Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer Ymchwil a Datblygu a Chynaliadwyedd: “Rydym yn awyddus i weld mwy o ffermydd yn ymuno â’r gwaith arloesol hwn sy’n defnyddio data o’r fferm er mwyn gwella geneteg o fewn diwydiant defaid y DG.

Trwy ddefnyddio’r eneteg orau sydd ar gael, mae modd gwella perfformiad a phroffidioldeb y ddiadell yn sylweddol. Mae’n cael ei gydnabod yn gyffredinol taw dewis anifeiliaid magu â ffigurau perfformiad uchel yw’r un ffordd fwyaf effeithiol o wneud cynhyrchu da byw yn fwy proffidiol ac effeithlon. Gyda hyn mewn golwg, byddwn yn cymell ffermwyr o bob rhan o Gymru sydd â diddordeb mewn geneteg ac sy’n fodlon cofnodi perfformiad eu diadelloedd i wneud cais.”

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dr McCalman ar 01970 625050 / hmccalman@hybucig.cymru neu ewch i: ramcompare.com. Mae enwebiadau’n cau ddydd Gwener 16 Mai 2025. Gallwch ddod o hyd i’r ffurflenni yn uniongyrchol drwy’r dolenni a ganlyn:

Gallwch hefyd gysylltu â chydlynydd y prosiect Bridget@Bridget-Lloyd.com yn uniongyrchol i gael rhagor o fanylion.

I gael gwybodaeth dechnegol am hyrddod cig â chofnodion perfformiad, ewch i Publications | Signet Breeding (signetdata.com)


You may also like

Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd