Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn rheng flaen y diwydiant cig coch yng Nghymru, wrth  hybu ei ddatblygiad, ei hyrwyddiad a’i farchnata gyda gweledigaeth glir: i feithrin diwydiant proffidiol, effeithlon, cynaliadwy, arloesol a chystadleuol sy’n gallu ymdopi â newidiadau gwleidyddol ac amgylcheddol ac sydd o fudd i bobl Cymru. Mae ganddo gylch gwaith statudol ac mae’n cyflawni Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010.

Wedi cyfnod o newid, mae’r corff ardoll cig coch bellach yn bwriadu recriwtio ei Brif Weithredwr newydd i arwain y sefydliad i’w gam nesaf o ddatblygu.

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i fod yn ymuno â Hybu Cig Cymru. Wrth i ni gychwyn ar bennod newydd, rydym yn chwilio am Brif Weithredwr eithriadol i’n harwain i mewn i’n cam nesaf o ddatblygiad o fewn diwydiant deinamig sy’n esblygu,” meddai Cadeirydd HCC, Catherine Smith.

Mae hon yn rôl hollbwysig ar gyfer arweinydd dylanwadol sy’n rhagori o ran creu perthynas a  meithrin cysylltiadau cadarn â Llywodraeth Cymru, ffermwyr, proseswyr, arweinwyr diwydiant a phartneriaid eraill ar draws y sector amaethyddol, a bydd y gadwyn gyflenwi cig coch yn hanfodol wrth lunio dyfodol y sefydliad a’i effaith ar y diwydiant cig coch.

“Wrth fod yn Brif Weithredwr newydd i ni, bydd yr ymgeisydd iawn yn gyfrifol am gyflawni camau olaf ein strategaeth Gweledigaeth 25  cyn llunio gweledigaeth newydd ar gyfer HCC; un sydd nid yn unig yn ysgogi twf cynaliadwy ond sydd hefyd yn gwneud y sefydliad yn enghraifft o ragoriaeth o fewn y sector o 2026 a thu hwnt. Os gallwch chi ysbrydoli tîm sy'n byw a bod yn y sector hwn i ddilyn y weledigaeth honno a bod yn ysbrydoledig wrth gyflwyno newidiadau sy'n ymgorffori nid yn unig safonau technegol a gweithredol uchel, ond hefyd ymrwymiad gwirioneddol a thosturi tuag at y bobl sy'n hwyluso ein llwyddiant, yna rydym am glywed gennych,” ychwanegodd Catherine Smith.

Yn ogystal â’r cyfrifoldebau hyn, bydd y Prif Weithredwr yn cael ei ddynodi’n Swyddog Cyfrifyddu gan Lywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod  arian cyhoeddus yn cael ei ddiogelu’n gall a thryloyw.

Pwysleisiodd Mrs Smith fod y swydd yn gyfle unigryw i gael effaith barhaol, nid yn unig ar y sefydliad, ond ar wead economaidd y diwydiant amaethyddol a’r gadwyn gyflenwi cig coch yng Nghymru a thu hwnt.

“Mae ar HCC angen ymgeisydd sy’n gallu arwain gyda dylanwad, hygrededd ac uchelgais i gael effaith gadarnhaol a pharhaol er budd ein holl randdeiliaid allweddol. Bydd angen arbenigedd mewn rheoli newid a thrawsnewid oherwydd bod cyd-destun ffermio yng Nghymru yn newid, a bydd yn rhaid i’n Prif Weithredwr newydd helpu’r sefydliad a’r sector cig coch i nodi a llywio cyfnod o newid sydd i ddod.

“I wneud y rôl hon mor ddylanwadol ac effeithiol â phosib, rhaid i'n Prif Weithredwr ymgorffori'r mathau o ymddygiad sy'n meithrin diwylliant cryf a thosturiol sy'n cael ei yrru gan ganlyniadau. Trwy arwain gydag empathi, dylanwad, creadigrwydd a phenderfyniad bydd yn ysbrydoli rhagoriaeth, yn sbarduno twf sefydliadol ac yn hyrwyddo diwylliant sy’n seiliedig ar gydweithio ac uchelgais,” meddai Cadeirydd HCC, Catherine Smith.

Mae rhagor o fanylion a gwybodaeth am sut i wneud cais ar gael yma: https://www.goodsonthomas.com/view-job/17261422206490016518eku


You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol