Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Mae grŵp o academyddion rhyngwladol annibynnol uchel eu parch wedi dod at ei gilydd i gyflwyno newyddion cadarnhaol am fwyta cig coch. Mae hyn o ganlyniad i’w pryderon ynghylch effaith gwaith ymchwil anghywir ac unochrog.

Roedd y grŵp, a oedd yn cynnwys yr Athro Dr Peer Ederer, yn symbyliad i Ddatganiad Dulyn sy’n datgan bod “systemau da byw yn rhy werthfawr i gymdeithas orfod dioddef oherwydd symleiddio, crebachu neu eithafiaeth.” Mae'r Athro Dr Peer Ederer hefyd yn gyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr GOALSciences (Global Observatory of Accurate Livestock Sciences), sydd â'r genhadaeth i ymchwilio a chyflwyno tystiolaeth wyddonol am rôl anifeiliaid yn y system fwyd fyd-eang.

“Mae’r rhan fwyaf o wyddonwyr yn bositif ynghylch y rhan sydd gan gig coch i’w chware mewn cymdeithas oherwydd ei rinweddau maethol, ecolegol, amgylcheddol a moesegol,” meddai’r Athro Dr Ederer wrth Hybu Cig Cymru (HCC). Roedd yn siarad ar drothwy Wythnos Cig Eidion Prydain (23 – 30 Ebrill), sef wythnos o ddathlu cig eidion wedi ei gynhyrchu’n lleol – gan gynnwys Cig Eidion Cymru - sy’n arwain y byd o ran blas, ansawdd a chynaliadwyedd.

Cyfeiriodd yr Athro Dr Ederer, a oedd yn brif siaradwr yng nghynhadledd flynyddol Hybu Cig Cymru (HCC) y llynedd, at enghreifftiau o ymchwil anghywir wedi’u cywiro neu ar fin cael eu cywiro gan wyddonwyr a oedd yn ceisio unioni’r fantol – “enghreifftiau o achosion y gall  gwyddoniaeth wella ei hun,” meddai wrth HCC.

Dywedodd y cafwyd prawf fod erthygl yn y Lancet yn cysylltu marwolaethau â chig coch yn anghywir a bod y cywiriad wedi cael ei dderbyn gan yr awduron a'r cyhoeddwyr. Yn yr un modd, roedd darn diweddar yn yr American Journal of Clinical Nutrition a oedd yn awgrymu cefnogi argymhellion dietegol i gyfyngu ar fwyta cig coch wedi cael ei gystwyo. “Cafodd yr un wybodaeth ei hailgyhoeddi dro ar ôl tro – ac eto mae gwyddonwyr wedi ei gwrthbrofi dro ar ôl tro”, meddai.

“Rhaid i ni ofyn cwestiwn i ni’n hunain, sef, sut maen nhw’n dal ati i gyhoeddi’r nonsens yma? Mae bob amser yn brif newyddion ym mhob cyfnodolyn gwyddonol ac wedyn yn y cyfryngau prif ffrwd. Ac eto, mae’r astudiaethau sy'n collfarnu - wel, mae'n ymddangos eu bod yn cael eu claddu mewn rhyw ddeunydd gwyddonol ac academaidd nad yw byth yn gweld golau dydd.

“Fedra i ddim rhoi ateb ichi, ond o fewn Datganiad Dulyn rydym wrthi’n ceisio darganfod pam fod hyn yn digwydd ac yn gwneud y rhesymau hynny’n hysbys,” meddai.

Dywedodd Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC, Laura Pickup: “Mae neges yr Athro Ederer yn bwysig ac yn cyd-fynd â’r Ffordd Gymreig o gynhyrchu cig coch. Cymru yw un o’r mannau mwyaf cynaliadwy ar y Ddaear o ran cynhyrchu cig coch. Dydy ein systemau ffermio ddim yn ddwys ac maen nhw’n dibynnu ar ddigonedd o borfa a glaw. Hefyd, mae ffermydd Cymru yn cyfrannu at atafaelu carbon, adfywio pridd a chynyddu bioamrywiaeth.

“Mae cig coch heb lawer o fraster yn llawn fitaminau a mwynau hanfodol, ac o’i gyfuno â chynhwysion iach eraill, mae’n cyfrannu at iechyd da fel rhan o ddiet cytbwys.

“Rydym yn falch o glywed academyddion o fri fel yr Athro Dr Ederer yn curo’r drwm ar ran ein diwydiant. Byddem hefyd yn annog ffermwyr i ddod yn llysgenhadon ar gyfer y dulliau cynhyrchu derbyniol maen nhw’n eu defnyddio ar eu ffermydd yn ystod Wythnos Cig Eidion Prydain a thu hwnt.”


You may also like

Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd