Mae’r corff ardoll cig coch, Hybu Cig Cymru, wedi cadarnhau perfformiad cryf ei ymgyrch ddiweddaraf ‘Naturiol a Lleol’ Cig Eidion Cymru PGI, a fu’n rhedeg yn ddwyieithog ledled Cymru ddiwedd 2025 a dechrau 2026. Llwyddodd yr ymgyrch integredig i gyflawni cyrhaeddiad, ymgysylltiad a gwelededd cryf ar gyfer un o gynhyrchion bwyd mwyaf eiconig Cymru.
Cysylltodd yr ymgyrch ‘Naturiol a Lleol’ â darpar gwsmeriaid ledled Cymru, gan gyrraedd 1.5 miliwn o bobl yn ystod y cyfnod o dri mis. Gwnaeth gweithgarwch digidol gyflawni canlyniadau rhagorol, gan ddarparu dros 5.5 miliwn o gyfleoedd ar-lein i weld yr ymgyrch.
Sicrhaodd cyfuniad o hysbysebu digidol wedi’i dargedu fod cynnwys hyrwyddo’n cael ei gyflwyno’n uniongyrchol i’r defnyddwyr a oedd fwyaf tebygol o brynu Cig Eidion Cymru, gan wneud y gorau o effeithlonrwydd a gwerth yr ymgyrch.
Ffurfiodd gweithgarwch awyr agored golofn ganolog i’r ymgyrch, gyda hysbysebu grymus ar hyd a lled Caerdydd yn ystod cyfres rygbi Ryngwladol yr Hydref ym mis Tachwedd, ochr yn ochr â meddiannu Gorsaf Caerdydd Canolog yn llwyr - gan osod Cig Eidion Cymru yng nghanol un o fannau cymudo prysuraf Cymru.
Gwnaeth hysbysebion teledu ar ITV Cymru a nawdd ar S4C wella’r cyrhaeddiad ymhellach, gyda Chig Eidion Cymru yn cael ei hyrwyddo cyn rhaglenni poblogaidd yn ystod y dydd a dros gyfnod y Nadolig.
Cryfhawyd yr ymgyrch gan gyfranogiad Lauren Price MBE, a fu’n gweithredu fel Llysgennad Brand Cig Eidion Cymru. Ymddangosodd Lauren ar gynnwys cyfryngau cymdeithasol HCC ac yn Ffair Aeaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn rhannu ei chefnogaeth i Gig Eidion Cymru, gan helpu i ennyn diddordeb cynulleidfaoedd newydd ac iau yn rhinweddau maethol Cig Eidion Cymru.
Dywedodd Arweinydd Ymgysylltu Brand HCC, Pip Gill: “Drwy gyfuno gwelededd drwy ddarlledu, targedu digidol manwl, cyfryngau awyr agored ar raddfa fawr a dylanwad ffigur chwaraeon cenedlaethol, llwyddodd yr ymgyrch ‘Naturiol a Lleol’ i atgyfnerthu Cig Eidion Cymru PGI fel dewis premiwm, dibynadwy a Chymreig balch i deuluoedd drwy gydol tymor y gaeaf.
“A ninnau wedi cyhoeddi cynllun strategol newydd HCC yn ddiweddar ar gyfer sector cig coch Cymru, rydym ni bellach yn edrych ymlaen at adeiladu ar lwyddiant yr ymgyrch a chynyddu maint a gwerth y Cig Eidion Cymru sy’n cael ei werthu i ddefnyddwyr a galw cynyddol y farchnad yn y blynyddoedd i ddod.”




