Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Gall ymwelwyr â Sioe Dinbych a Fflint (Dydd Iau 15 Awst 2024) edrych ymlaen at fwyd danteithiol am y bydd Hybu Cig Cymru (HCC) yn eu hysbrydoli â ryseitiau Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI blasus a maethlon, ynghyd ag arddangosiad coginio arbennig a fydd yn dangos amlbwrpasedd y cigoedd.

Y sawl a fydd yn llywio’r cyfan, gan dechrau am 10am yn y Neuadd Fwyd, fydd Swyddog Gweithredol y Defnyddwyr yn HCC, Elwen Roberts. Bydd hi’n codi awch bwyd y gynulleidfa wrth goginio tameidiau blasus a maethlon ac adrodd hanes clodwiw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. Bydd y cynhwysion, gan gynnwys caws, iogwrt a chwrw,  wedi dod o ffynonellau lleol er mwyn cefnogi cynhyrchwyr yn yr ardal.

Mae’r sioe yng nghanol prydferthwch Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych ac yn denu tua 18,000 o ymwelwyr bob blwyddyn drwy gynnig diwrnod gwych i’r teulu cyfan.

Dywedodd Elwen Roberts, wrth iddi baratoi ar gyfer y sioe: “Rydym yn edrych ymlaen at Sioe Dinbych a Fflint ac at ddarparu arddangosiad coginio i’r ymwelwyr.

“Mae sioeau sirol fel hon yn elfen bwysig o’n diwylliant a’n ffordd o fyw ac rydym yn falch o fod yn chwarae rhan fechan ynddi eto eleni. Mae hefyd yn gyfle gwych i ni dynnu sylw at fanteision maethol Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru fel rhan o ddiet iach a chytbwys ac edrychaf ymlaen at weld llawer ohonoch chi ar faes y sioe.”

Bydd Elwen yn esbonio rhinweddau maethol cig coch drwy bwysleisio fod y cyfoeth o brotein, fitaminau a mwynau sydd ynddo yn cynnig llawer o fanteision iechyd.

Mae cig coch yn cynnwys y mathau o haearn a sinc sy'n cael eu hamsugno'n well gan ein cyrff na'r rhai a geir mewn unrhyw ffynhonnell ddietegol arall. Mae haearn hema o gig coch yn cael ei amsugno 2-6 gwaith yn well na ffynonellau haearn sydd heb hema.

Mae bwyta Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru blasus fel rhan o ddiet iach a chytbwys yn ffordd ragorol o wneud yn siŵr eich bod yn cael yr hyn sydd ei angen arnoch ar gyfer iechyd da – fel y bwriadwyd gan natur.

You may also like

HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad