Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae Cig Oen Cymru ar ei ffordd i sioe fasnach fwyaf Asia, FoodEx, diolch i Hybu Cig Cymru (HCC). Bydd y digwyddiad, a gynhelir o ddydd Mawrth 5 Mawrth tan ddydd Gwener 8 Mawrth yn Tokyo Big Sight, yn denu dros 2,500 o gwmnïau bwyd a diod blaenllaw o fwy na 60 o wledydd a rhanbarthau.

Mae FoodEx yn cynnig cyfle allweddol i ehangu ac adeiladu ar enw da Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru ac i gysylltu â chwsmeriaid newydd ar draws y rhanbarth.  Mae HCC wedi bod yn gweithio’n ddiflino ar ran y rhai sy’n talu’r ardoll a’r diwydiant i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer brandiau cig coch Cymru o’r radd flaenaf, a gafodd eu lansio o’r newydd yn gynharach eleni yn y sector Gwasanaethau Bwyd gorau ledled Siapan.

Mae Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC,  Laura Pickup, sy’n ymuno â’r ddirprwyaeth, yn esbonio pam na ddylid colli’r digwyddiad hwn:  “Trwy fynychu FoodEx rydym yn adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd eisoes wedi’i wneud ac sydd wedi sicrhau’r lle gorau i Gig Oen Cymru ar fwydlenni gourmet yn y farchnad newydd bwysig hon.

“Rydym yn gyffrous ein bod yn parhau i adrodd stori ragorol y cynnyrch premiwm hwn, sy’n seiliedig ar dreftadaeth a dulliau cynhyrchu cynaliadwy y gwyddom eu bod yn arwain y byd ac mae mynychu sioeau masnach fel hon ar ran y diwydiant yn elfen hanfodol o’n gwaith hyrwyddo a datblygu’r farchnad.”

You may also like

HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad