Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Bydd Cig Oen Cymru PGI yn cael sylw mewn sawl digwyddiad yn Efrog Newydd yn ystod yr wythnos nesaf wrth i Hybu Cig Cymru (HCC) barhau â’i raglen allforio.

Bydd tîm HCC yn arddangos ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru yn y Summer Fancy Food Show yn Efrog Newydd, sef sioe fasnach arbenigol ar gyfer bwyd a diod a gynhelir rhwng 23 a 25 Mehefin.

Mae Cig Oen Cymru hefyd yn cael sylw mewn digwyddiad Brits in Brooklyn lle mae dylanwadwyr bwyd a diod Americanaidd a phobl bwysig iawn yn cael eu cyflwyno i amrywiaeth o fwydydd eiconig o’r Deyrnas Gyfunol.

Yn ogystal, bydd Cig Oen Cymru ar y fwydlen mewn derbyniad swyddogol gan Lysgennad y Deyrnas Gyfunol yn Efrog Newydd.

Dywedodd Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC, Laura Pickup: “Mae’r Unol Daleithiau yn un o’n marchnadoedd targed pwysicaf dramor ar gyfer Cig Oen Cymru. Bydd presenoldeb yn y Summer Fancy Food Show a chael Cig Oen Cymru mewn nifer o ddigwyddiadau allweddol eraill yn ein galluogi i gwrdd â darpar brynwyr a chwsmeriaid ac i dynnu sylw at rinweddau amgylcheddol ac ansawdd a blas gwych Cig Oen Cymru.”

Mae’r Unol Daleithiau yn farchnad darged allforio allweddol i HCC a sector Cig Oen Cymru.  Amcangyfrifir ei bod yn werth miliynau o bunnau i’r diwydiant yn yr hirdymor. Ail agorodd y farchnad i gynhyrchwyr ac allforwyr y DG yn 2022 ar ôl i waharddiad a barhaodd am ugain mlynedd ddod i ben.  Cafodd  y llwyth cyntaf o gig oen ei anfon o Gymru ym mis Hydref 2022.

You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol