Cynhaliwyd Clwb Swper Cynaliadwy i newyddiadurwyr a blogwyr yng Nghaerdydd gan Hybu Cig Cymru. Cynhaliwyd y digwyddiad yn fwyty Asador 44 ble ymunodd y cogydd Owen Morgan gyda ffermwyr Ben ac Ethan Williams er mwyn dathlu Cig Eidion Cymreig PGI. Atebodd Ben ac Ethan cwestiynau wrth y newyddiadurwyr am sut mae Cig Eidion Cymreig yn cael ei chynhyrchu a creodd Owen Morgan bwydlen arbennig o doriadau gwahanol o Gig Eidion Cymreig yn cynnwys asen o Gig Eidion Cymreig a ffiled carpaccio Cig Eidion Cymreig er mwyn dathlu’r cynnyrch.
Dywed Pip Gill, Arweinydd Ymgysylltu Brand HCC: “Roedden ni’n hapus iawn i dal Clwb Swper Cynaliadwy Cig Eidion cyn Wythnos Cig Eidion Prydain. Mae gweithio gyda’r wasg a newyddiadurwyr yn amcan allweddol yn waith brandio HCC er mwyn sicrhau bod negeseuon cadarnhaol o gwmpas Cig Eidion Cymreig yn ymddangos yn y wasg.