Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Cafodd Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod yn swyddogol â statws Dynodiad Daearyddol (GI) yn Siapan.  Mae'r statws gwarchodedig hwn yn golygu bod hawl allforio'r cynhyrchion premiwm i Siapan gyda sicrwydd ychwanegol eu bod wedi'u diogelu rhag cynhyrchion sy’n eu hefelychu.

Mae’r cyhoeddiad gan yr Adran Fusnes a Masnach, a ddisgrifiwyd yn llwyddiant i gig coch Cymru gan Hybu Cig Cymru (HCC), yn dilyn proses o fiwrocratiaeth a chraffu trylwyr gan y DG a Siapan. Bydd ail grŵp yn cael ei gyhoeddi ar ôl cwblhau gwaith pellach.

Daeth y Cytundeb Partneriaeth Economaidd Cynhwysfawr rhwng y DG a Siapan i rym ar 1 Ionawr 2021 a bydd yn arwain at gynnydd yn nifer y Dynodiadau Daearyddol gwarchodedig o ddim ond saith o dan y cytundeb masnach rhwng yr UE a Siapan i dros 70.

Dywedodd Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC, Laura Pickup: “Rydym wrth ein bodd fod Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru bellach wedi’u diogelu  gan y dynodiad GI. Mae’n adeiladu ar y gwaith hollbwysig y mae HCC eisoes wedi’i wneud i sicrhau marchnad ar gyfer ein brandiau premiwm sydd yn allweddol i ni.

“Yn ogystal, mae’n golygu y gall defnyddwyr yn Siapan fod yn dawel eu meddwl, pan fyddan nhw’n prynu Cig Oen Cymru GI a Chig Eidion Cymru GI, eu bod yn dewis cynnyrch premiwm sy’n seiliedig ar dreftadaeth a dulliau cynhyrchu cynaliadwy sydd yn arwain y byd.”

You may also like

Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd