Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae Llywodraeth Cymru am benodi pedwar Cyfarwyddwr Anweithredol newydd i ymuno â bwrdd Hybu Cig Cymru (HCC).

Wedi’i gadeirio gan Catherine Smith, mae'r bwrdd yn cynnwys unigolion ag ystod o brofiadau o bob rhan o’r gadwyn gyflenwi cig coch. Mae gan yr aelodau sgiliau cryf ar draws y sector a phrofiad mewn llywodraethiant, amaethyddiaeth, cynaliadwyedd a marchnata.

Rôl Bwrdd HCC yw goruchwylio’r swyddogion gweithredol a darparu arweinyddiaeth effeithiol. Mae’n diffinio a datblygu cyfeiriad strategol a gosod amcanion heriol, tra’n hyrwyddo safonau uchel o gyllid cyhoeddus, cynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am fonitro perfformiad HCC, gan sicrhau ei fod yn bodloni'r nodau, amcanion a thargedau perfformiad a nodir yn y cynlluniau corfforaethol a busnes.

Meddai Catherine Smith: “Bydd HCC yn lansio Gweledigaeth 2030 yn fuan - cynllun strategol newydd ar gyfer y pedair blynedd nesaf - felly dyma amser gwych i ymuno â’r Bwrdd ar ddechrau pennod newydd, gyffrous. Os ydych chi’n awyddus i wneud gwahaniaeth, yn angerddol am sector cig coch Cymru ac eisiau helpu i siapio’i ddyfodol, dyma gyfle perffaith i chi.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16:00 ar 23/01/2026.

Am fwy o wybodaeth a manylion ymgeisio, cliciwch ar y dolenni canlynol:

Dau Aelod Anweithredol o'r Bwrdd - Bwrdd Hybu Cig Cymru - Cymraeg yn Ddymunol -

Dau Aelod Anweithredol o'r Bwrdd - Bwrdd Hybu Cig Cymru - Cymraeg yn Hanfodol -

You may also like

HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad