Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae wyth ymgeisydd llwyddiannus wedi’u dewis fel aelodau cynllun Cig-weithio Hybu Cig Cymru (HCC) ar gyfer 2025-2026.

Gan gyfarfod am y tro cyntaf yn Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos ddiwethaf, dyma ail griw'r rhaglen sydd â’r nod o gysylltu unigolion ifanc sy’n gweithio ar draws y gadwyn gyflenwi cig coch.

Yr aelodau yw:

  • Ben Roberts, Wrecsam – cigydd a pherchennog Astley & Stratton
  • Bethany Rogers, Llanfair ym Muallt – caffael cig oen i gwmni Pilgrims
  • Emma Williams, Ynys Môn - ffermwr a manwerthu o’r fferm
  • Erin McNaught, Y Bala – ffermwr a llefarydd ar amaethyddiaeth
  • Lynfa Jones, Y Trallwng – ysgrifennydd Cymdeithas Gwartheg Duon Cymru
  • Rachel Jones, Y Drenewydd – darlithydd mewn Amaethyddiaeth yng Ngholeg y Drenewydd – Grŵp NPTC
  • Richard Watkins, Malvern – caffael cig eidion i gwmni Kepak
  • Thomas Davies, Aberaeron – masnachwr amaethyddol i gwmni Wynnstay

Datblygwyd y rhaglen yma i unigolion rhwng 21-35 mlwydd oed. Mae’n cynnwys pum sesiwn gyda thema wahanol sy’n gyfle i’r grŵp ddod ynghyd i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o rannau gwahanol o’r gadwyn gyflenwi, yn amrywio o ddulliau amaethu ac iechyd anifeiliaid, i ansawdd bwyta a thueddiadau defnyddwyr.

Bydd pob aelod yn cael mentor o’r diwydiant a bydd disgwyl iddynt dreulio diwrnod gyda’r mentor yn y gweithle. Yn ogystal, bydd y grŵp yn cydweithio ar brosiect ymchwil a bydd y canlyniadau’n cael eu bwydo yn ôl i’r diwydiant.

Meddai Uwch Swyddog Cynhyrchu a Phrosesu HCC, Lowri Thomas: “Llwyddodd y cynllun Cig-weithio i gysylltu unigolion ac ysgogi trafodaeth ymysg aelodau o’r gadwyn gyflenwi yn y flwyddyn gyntaf. Byddwn yn adeiladu ar lwyddiant y flwyddyn gyntaf i ddatblygu rhaglen bwrpasol i’r grŵp newydd, gan ddatblygu eu dealltwriaeth o gynhyrchu cig coch o’r fferm i’r fforc.

“Cawsom ein plesio gan yr ymgeiswyr a’u profiadau amrywiol o’r diwydiant cig coch. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chriw deinamig o bobl sy’n cynnwys cynrychiolwyr o fanwerthwyr, proseswyr a chwmni masnachu amaethyddol, ffermwyr a mwy.”

Er na fagwyd Thomas Davies ar fferm, mae’r diddordeb mewn amaethyddiaeth a chynhyrchu cig coch wedi bod yno erioed. Meddai: “Mae fy nghefndir mewn ffermio; roeddwn i’n arfer helpu mam-gu a tad-cu ar eu fferm nhw o oedran ifanc. Yn dilyn hynny, es i i astudio amaethyddiaeth ar gyfer fy ngradd a gradd meistr. Nawr, rwy’n awyddus i ddysgu mwy gan aelodau eraill Cig-weithio ac ehangu fy mhrofiad o fewn y sector cig coch.”

Roedd gan Ben Roberts hefyd ddiddordeb yn y sector cig coch o oedran ifanc a dechreuodd hynny pan oedd yn un ar ddeg mlwydd oed pan arferai helpu mewn siop cigydd. “O helpu yn siop tad fy ffrind gorau, mi ges i swydd ar ddydd Sadwrn gyda chigydd. Bryd hynny, doedd gen i ddim diddordeb mewn gyrfa fel cigydd a dewisais ddilyn trywydd cynllunio graffeg yn y coleg. Sylweddolais yn sydyn nad oedd hynny i mi felly mi es i yn ôl at y cigydd i ofyn am swydd. Dw i ddim wedi edrych yn ôl ac yn berchennog ar fy musnes fy hun erbyn hyn yn Farndon, Sir Caer.

“Roeddwn i’n falch o gael fy newis ar gyfer Cig-weithio ac yn awyddus i ddysgu mwy am y gwahanol agweddau o’r gadwyn gyflenwi cig coch.”

You may also like

HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad