Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae Bwletin y Farchnad y mis hwn yn canolbwyntio ar sector defaid y DU, gan dynnu sylw at dueddiadau cyfredol a ffactorau allweddol sy’n dylanwadu ar y farchnad ar hyn o bryd.

Pwyntiau allweddol:

  • Mae trwybwn defaid ac ŵyn 2025 (hyd at fis Medi) yn gyson gadarn o’i gymharu â lefelau’r flwyddyn flaenorol, ac wedi cyrraedd 9.3 miliwn pen – sydd 0.2% yn uwch na’r un cyfnod yn 2024 (DEFRA).
  • Ŵyn dethol oedd y gyfran fwyaf o’r trwybwn ar 89%.
  • Gwelwyd cynnydd o 13%, neu 55,300 tunnell, mewn allforion ffres ac wedi rhewi o’r DU hyd yn hyn eleni, gyda 95% o’r cyfanswm yn mynd i’r UE.
  • Gwelwyd cynnydd o 7%, neu 50,600 tunnell, mewn mewnforion o gig dafad ffres ac wedi rhewi ar gyfer 8 mis cyntaf 2025.
  • Mae defnyddwyr yn parhau i wynebu prisiau uwch yn sgil cynnydd mewn chwyddiant. O ran gwerthiant i ddefnyddwyr, mae’r cyfaint a’r gwariant ar gig oen wedi gostwng.

Am ddadansoddiad llawn o’r data, cliciwch YMA i ddarllen Bwletin y Farchnad mis Hydref. Mae’r bwletin hefyd yn cynnwys crynodeb o brisiau gwartheg, defaid a moch yn ystod y mis.

You may also like

HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad