Skip to content
HCC Trade

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Porc Blasus

Share

Mae pwysau cyflenwi a galw gartref a thramor yn debygol o gynnal prisiau ar gyfer Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru am o leiaf deuddeg mis arall, meddai dadansoddwr cig coch blaenllaw wrth gynrychiolwyr yng nghynhadledd ddiweddar Hybu Cig Cymru (HCC).

“Ar y cyfan, mae’n stori bositif ar hyn o bryd; mae prisiau gât y fferm yn gryf iawn ac mae hynny oherwydd y galw cryf sylfaenol pan fo cyflenwadau, ar yr un pryd, yn parhau i fod yn gymharol dynn," meddai Edward Brown, Ymgynghorydd yn GIRA. “Felly, o safbwynt prisiau, mae’n eithaf positif yn y rhagolygon tymor byr.”

Wrth osod yr olygfa, dywedodd Mr Brown bod y diwydiant cig coch byd-eang wedi dioddef nifer o "aflonyddwyr" yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys ASF, HPAI, Covid, patrwm tywydd El Nino a sychder. "Yn Tsieina, er enghraifft, fe wnaeth ASF leihau'r stoc moch o hanner - ac i ddangos pwysigrwydd hynny, roedd gan Tsieina hanner y stoc moch byd-eang cyn i hynny ddigwydd."

Dywedodd Mr Brown fod galw byd-eang cryf am gig eidion a chig oen o ansawdd uchel, ac yn enwedig gyda chwsmer allforio mwyaf arwyddocaol Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, yr Undeb Ewropeaidd. "Mae'r galw hwn yn debygol o barhau oherwydd bod cynhyrchiant yr UE yn mynd i barhau i fod yn dynnach. Mae data praidd dros y degawd diwethaf yn awgrymu lleihad yn yr UE - ac oes, mae tystiolaeth bod yr un peth yn digwydd yn y DU - ond mae'r UE yn bendant yn lleihau’n gyflymach ac mae'n wynebu rheoliadau cynyddol, fel bargen werdd yr UE a diwygio CAP.

"Ac eto wrth i'r praidd barhau i leihau yn yr UE - am saith i wyth mis cyntaf y flwyddyn - roedd y cynhyrchiad i lawr tri a hanner y cant ar draws 27 yr UE - mae eu defnyddwyr yn dal i ddangos galw mawr am gig coch," meddai Mr Brown.

Dywedodd fod y prisiau cyfatebol yn Ewrop ar gyfer cig oen trwm ymhell yn uwch na lefelau'r DU a'i fod yr un peth ar gyfer prisiau cig eidion. "Mae rhagolygon prisiau Gira yn cwmpasu hyd at 12 mis i ddod. Y disgwyl yw y bydd prisiau cig eidion hefyd yn aros ar lefel debyg efallai ychydig yn uwch hyd yn oed."

Amlygodd Mr Brown gyfleoedd ar gyfer cynnyrch premiwm yn y farchnad fyd-eang. "Mae rhagolygon eithaf da ar gyfer y farchnad os ydych chi'n gyflenwr cig oen o ansawdd da - fel Cig Oen Cymru - ac rydych chi mewn sefyllfa i dynnu sylw at y manteision cynaliadwyedd hefyd. Mae natur olrheiniadwy hefyd yn dod yn sbardun cynyddol bwysig mewn masnach ac yn yr UE, er enghraifft, bydd cadwyn gyflenwi y gellir ei olrhain yn llawn a'i safle sicrwydd fferm yn sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa dda iawn."

O ran stocio a chynnal màs critigol, dywedodd Mr Brown: "Mae'r bygythiad i'r DU yn parhau'n hyfyw o fewn y maint sydd gennym ni ac yn parhau'n gystadleuol mewn marchnad lle mae llawer o bwysau allanol."

You may also like

Lansio ymgyrch newydd Cig Eidion Cymru
Lansio ymgyrch newydd Cig Eidion Cymru
Cannoedd o ffeithiau am dda byw ar flaenau eich bysedd

Marchnadoedd Mwslimaidd yn cefnogi dyfodol gwerthiant Cig Oen Cymru, yn ôl arbenigwr

Prosiect newydd ar wytnwch glaswelltir yn ceisio arbed £1.6 biliwn