Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Ar ôl ennill cystadleuaeth genedlaethol, cafodd disgyblion Ysgol Carno gyfle i gymryd rhan mewn gweithdai bwyd a ffermio a gynhaliwyd gan Hybu Cig Cymru.

Roedd y corff sy’n hyrwyddo cig coch wedi cynnal cystadleuaeth i athrawon sy’n tanysgrifio i’w gylchlythyr Gwersyll o’r Gegin / The Kitchen Classroom i ennill gweithdy bwyd a ffermio yn yr ysgol.

Yn y gweithdy, fe wnaeth Elwen Roberts, Swyddog Gweithredol Defnyddwyr yn HCC, gyflwyniad ar sut mae Cig Oen Cymru PGI, Cig Eidion Cymru PGI a Phorc o Gymru yn cael eu cynhyrchu yn ogystal â rhoi sylw i faeth a deiet iach. Roedd y disgyblion hefyd wedi cymryd rhan mewn sesiynau coginio ymarferol gan ddysgu sut i greu eu peli cig eidion blasus eu hunain yn ogystal â thorri a pharatoi llysiau tymhorol yn ddiogel i wneud saws pasta maethlon.

Meddai Elwen Roberts, Swyddog Gweithredol Defnyddwyr yn HCC: “Llongyfarchiadau i Ysgol Carno am ennill ein cystadleuaeth. Roedd yn bleser i ymweld â’r ysgol ac i weld y plant wrthi’n brysur yn y gegin.

“Mae gweithio gydag ysgolion, athrawon a disgyblion yn rhan allweddol o gylch gwaith Hybu Cig Cymru i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn gwybod sut mae cig coch Cymru’n cael ei gynhyrchu, sut mae ei goginio a sut mae’n chwarae rhan bwysig mewn deiet a ffyrdd iach o fyw.”

Dywedodd Bethan Williams, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Carno: “Diolch o galon i Elwen a’r tîm am ddod draw i Ysgol Carno, mwynhaodd y plant i gyd y sesiwn yn enwedig y blasu! Mae nhw llawn gwybodaeth rwan am gig cymru a wedi bod yn ysgrifennu ryseitiau a thaflenni rhannu gwybodaeth am gig coch Cymru.”

Mae gan HCC wefan benodol ar gyfer athrawon sy’n chwilio am adnoddau’n ymwneud â bwyd a ffermio: www.hwbcigcoch.cymru / www.redmeathub.wales. Mae’r adnoddau ar gael yn ddwyieithog ar gyfer y gwahanol gyfnodau allweddol.

You may also like

Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru
Clwb Swper Cynaliadwy ar gyfer Cig Eidion Cymru
Neges ‘Naturiol a Lleol’ yn parhau’n berthnasol ar gyfer Cig Eidion Cymru
Neges ‘Naturiol a Lleol’ yn parhau’n berthnasol ar gyfer Cig Eidion Cymru
Angen ffermydd i gasglu data am ŵyn masnachol ar gyfer prosiect geneteg
Angen ffermydd i gasglu data am ŵyn masnachol ar gyfer prosiect geneteg
HCC yn dechrau’r chwilio blynyddol am Ysgolorion newydd
HCC yn dechrau’r chwilio blynyddol am Ysgolorion newydd