Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae gostyngiad yn niferoedd y diadelloedd a ffermydd yng Nghymru bellach yn achosi pryder gwirioneddol ac, oni chaiff ei atal, gallai achosi “difrod anadferadwy” i’r diwydiant da byw, meddai Cadeirydd Hybu Cig Cymru (HCC) wrth annerch cynulleidfa o’r diwydiant ddydd Llun (22ain) yn y Sioe Frenhinol.

Yn y digwyddiad brecwast blynyddol, dywedodd Cadeirydd HCC, Cath Smith: “Byddai unrhyw grebachu pellach yn niferoedd y da byw yn niweidio ein diwydiant i raddau na ellid ei adfer. Nid yw’n or-ddweud y gallai colli mwy o ffermydd cynhyrchiol fod yn drychinebus i’n sector.”

Tynnodd sylw at y ffaith fod y rhwydwaith o 20,000 o ffermydd  cig coch teuluol yng Nghymru yn sail i economi, cymunedau, diwylliant ac iaith ein gwlad.

“Gyda’n gilydd, rydym yn gynhyrchydd enfawr o gynnyrch gwirioneddol wych – ond rhaid i chi sylweddoli hefyd fod y diwydiant hwn ar groesffordd bwysig. Ni allaf bwysleisio’n ddigon cryf pa mor hanfodol yw hi i ni ddiogelu ein niferoedd presennol.”

Dywedodd fod effeithiau economaidd allanol eisoes wedi bod yn ddylanwad, ac aeth yn ei blaen i ddweud: “Mae’r màs critigol i lawr ledled Cymru; mae’r data diweddaraf yn awgrymu bod cyfanswm y defaid ac ŵyn ar ffermydd Cymru yn 8.7 miliwn – sydd saith y cant yn is na’r niferoedd a gofnodwyd y flwyddyn flaenorol. Roedd nifer yr ŵyn yng Nghymru yn ystod yr un cyfnod, sef 4.1 miliwn, i lawr ddeg y cant o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

“Mae ein màs critigol o niferoedd y ffermydd a da byw yn sicrhau ein bod ni’n gallu rhoi digon o gig coch GI o’r safon uchaf yn y siopau ac ar fyrddau bwyd teuluoedd ledled y DG – ac, wrth gwrs, ledled y byd.”

“Mae pob gwerthiant allforio yn bwysig, oherwydd mae’n helpu i gael y cydbwysedd carcas sy’n hanfodol i gael y gwerth gorau ar gyfer pob anifail cig oen neu gig eidion a gynhyrchir yng Nghymru.  Mae hefyd yn diogelu’r prisiau uwch sydd eu hangen arnom ar gyfer enillion ein ffermydd a goroesiad economaidd.

“Nid yw’n frawychus dweud, pe na bai marchnadoedd allforio yn prynu toriadau nad ydynt mor boblogaidd yn y DG, ni fyddai’r farchnad gartref yn gweithio,” meddai Cath Smith.

Màs critigol cynhyrchiant diwydiant cig coch Cymru – a’i weithgarwch bywiog o ran allforio – oedd y colofnau deuol y “mae’n rhaid inni eu cadw’n gryf os ydym am ddiogelu dyfodol ffermio ein cenedl – ac roedd y ddau yn dibynnu’n helaeth ar eu sylfeini amddiffynnol, sy’n cynnwys cryfder cyfunol adnoddau, profiad ac arbenigedd HCC – a sicrwydd darpariaeth.”

Dywedodd  fod HCC, mewn 21 mlynedd, wedi esblygu o fod yn syniad gwych i fod yn sefydliad gwych a’i fod wedi gwneud gwahaniaeth diamheuol ac amlwg i ffermio. “Gyda’n gilydd rydym wedi adeiladu system gymorth i’r gadwyn gyflenwi sydd yn effeithlon, yn gryf ac yn gost-effeithiol dros ben.

Diolchodd ymhellach i staff HCC am eu gwaith rhagorol, gan ddweud: “Mae eu ffocws, eu penderfyniad, eu hymroddiad a’u diwydrwydd wedi cynhyrchu canlyniadau a chyflawniadau syfrdanol. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, gyda phrofiad ein staff a chynllun strategol ein diwydiant, bydd HCC yn ymdrechu i greu newid a’ch cynorthwyo chi i adeiladu diwydiant cig coch cryf, gwydn a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”

You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol