Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Cafodd y data gwybodaeth diweddaraf am y farchnad cig coch, rhagofynion y farchnad  ac ymgyrch gyfredol Cig Oen Cymru PGI eu trafod mewn weminar yn ddiweddar gan arbenigwyr Hybu Cig Cymru (HCC) yn eu gwahanol feysydd, sef Glesni Philips, Philippa Gill, a James Ruggeri.

Roedd cyfle gan y rhai a ymunodd  â’r weminar i glywed Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes HCC, Glesni Phillips, yn amlinellu’r tueddiadau a welir yn y farchnad gig oen ar hyn o bryd. Bu Philippa Gill, Swyddog Gweithredol Ymgyrchoedd HCC, yn trafod yr ymgyrch gyfredol ar gyfer Cig Oen Cymru, a gafodd ei lansio yn Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf, a bu James Ruggeri, Swyddog Gweithredol Datblygu’r Diwydiant yn HCC, yn esbonio sut i ateb gofynion y farchnad.

Rhoddodd Glesni adroddiad treiddgar am y tueddiadau diweddaraf sy’n dylanwadu ar y farchnad gig oen. Yn ogystal, bu’n archwilio i argaeledd cyfredol cig oen, sut mae lefelau cynhyrchu yn amrywio a beth mae hyn yn ei olygu i’r cyflenwad. Hefyd, bu’n dadansoddi’r marchnadoedd gartref a thramor, gan ystyried yr hyn y gallai’r tueddiadau diweddaraf olygu i ddyfodol cig oen Cymru yn y farchnad fyd-eang.

Wrth siarad ar ôl y gweminar, dywedodd Glesni: “Gyda dewisiadau defnyddwyr yn newid, mae deall y newidiadau yn y galw yn y siopau yn bwysicach nag erioed. Roedd deinameg y farchnad fyd-eang hefyd yn elfen bwysig o’r hyn a gafodd sylw gennym, ac rwy’n gobeithio fod hyn wedi rhoi darlun ehangach i dalwyr ardoll ynghylch sefyllfa Cig Oen Cymru yn y farchnad ryngwladol.

“Wrth i ni ddelio â thirwedd sy'n newid yn gyflym, mae deall faint o ŵyn a chig oen sydd ar gael, ynghyd â’r hyn sydd ei angen ar y defnyddiwr, yn hanfodol ar gyfer gwneud penderfyniadau gwybodus sy'n cael effaith ar broffidioldeb eich fferm. Roedd y sesiwn hon yn ymwneud â darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i ymaddasu a ffynnu mewn marchnad gystadleuol. I ffermwyr ledled Cymru, mae cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y tueddiadau hyn yn hanfodol ar gyfer cynllunio, strategaeth, a gwneud penderfyniadau mwy gwybodus ar gyfer yr hyn sy’n digwydd ar y fferm.”

Trafododd Philippa Gill yr ymgyrch i hyrwyddo Cig Oen Cymru PGI ar sianeli teledu ITV, Sky ac S4C ar hyn o bryd ac amlinellodd agweddau eraill ar yr ymgyrch eleni – gan gynnwys, hysbysebu allan o’r cartref, hysbysebion print yng nghylchgrawn Taste Blas a hysbysebu digidol ar draws y cyfryngau cymdeithasol.  Esboniodd fod yr ymgyrch yn targedu siopwyr yng Nghymru a De Ddwyrain Lloegr ac yn canolbwyntio ar ardaloedd lle mae Cig Oen Cymru ar gael yn y cyffiniau i siopwyr.

Dywedodd: “Roedd yn wych gallu siarad am y gwaith rydym yn ei wneud yn HCC a’r gweithgaredd ymgyrchu sy’n cefnogi ein cynnyrch premiwm. Gallu dangos y strategaeth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni i sicrhau ein bod yn targedu’r gynulleidfa gywir ac yna defnyddio’r tactegau cywir i sicrhau bod strategaeth farchnata tymor hir a byr yn fuddiol i’n talwyr ardoll.”

Bu James Ruggeri yn trafod sut orau y gall ffermwyr ledled Cymru fodloni gofynion y farchnad er mwyn sicrhau’r enillion gorau a gwella ansawdd cig i’r defnyddiwr. Bu hefyd yn trafod y costau cynhyrchu cyfredol i gynhyrchwyr defaid ac yn tynnu sylw at gyfleoedd i ddatblygu’r diwydiant drwy’r cyrsiau hyfforddi Byw i Farw gyda HCC.

Dywedodd: “Mae Cig Oen Cymru PGI yn gynnyrch rhagorol, ond mae’n bwysig i ffermwyr Cymru barhau i greu cynnyrch y mae cwsmeriaid yn dymuno ei gael a  gwybod y ffordd orau o ateb eu gofynion, cael yr enillion gorau, a gwella ansawdd y cig i'r defnyddiwr.

“Mae HCC bob amser wrth law i ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen i wneud penderfyniadau strategol ar gyfer llwyddiant y fferm yn y dyfodol ac os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno ag un o’n cyrsiau byw-i-marw, cofiwch gysylltu â ni.”


You may also like

Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd