Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Gwahoddir ffermwyr o bob rhan o Gymru i ymuno â busnes ffermio arloesol a Hybu Cig Cymru (HCC) ar gyfer gweithdy Grasscheck arbennig.

Cynhelir y gweithdy ddydd Iau 22 Chwefror 2024 ym Mhenmaen Bach ger Machynlleth, lle mae Richard Rees a’i frawd Huw Llyr yn rhedeg fferm 90 hectar, ac yn pori diadell o 400 o famogiaid croes Aberfield sy’n cael hyrddod Abermax.

Ers dwy flynedd, mae’r fferm wedi bod yn rhan o fenter Grasscheck GB sydd wedi darparu data a chymorth amhrisiadwy i’r busnes. Nod y teulu yw pesgi’r holl ŵyn oddi ar borfa  ar system bori cylchdro sydd hefyd yn cynnwys sicori a maglys. Mae'r fferm yn ceisio cadw costau mor isel â phosib drwy roi pwyslais ar gynhyrchu porfa a defnyddio gwreiddlysiau yn y gaeaf.

Yn ymuno â’r gweithdy bydd yr ymgynghorydd Andy King a fydd yn rhannu dadansoddiad o ddata pori’r fferm y tymor hwn ac yn esbonio sut mae’r data’n helpu wrth wneud penderfyniadau.

Dywedodd Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol yn HCC, Rachael Madeley-Davies: “Mae’r hyn a wnaed eisoes yma ym Mhenmaen Bach yn rhoi syniad da iawn o’r hyn y gallwn ei gyflawni os cymerwn fantais lawn o’r data. Rhaid i’n diwydiant a’n harferion ffermio esblygu os ydym am aros ar y blaen ac arwain y ffordd o ran cael busnesau fferm arloesol, cynaliadwy a phroffidiol. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n tyfu’r adnodd gwerthfawr hwn i ymuno â’r diwrnod gwybodaeth a dysgu am y prosiect a’r manteision y gall eu rhoi i’w menter ffermio eu hunain.”

Archebwch eich lle yma:  https://bit.ly/3RYvPcs

You may also like

Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd