Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Roedd 2025 yn flwyddyn gynhyrchiol o weithgaredd cyffrous i’r brand Porc Blasus, wedi’i gydlynu gan Hybu Cig Cymru (HCC) ar ran cynhyrchwyr porc o Gymru. Roedd y gweithgareddau marchnata yn canolbwyntio ar greu cynnwys ffres, o ansawdd uchel i arddangos y cynnyrch a chefnogi’r rhwydwaith o gynhyrchwyr ymroddgar.

Yn ystod misoedd yr haf, datblygwyd 12 o rysetiau porc newydd sbon, oedd yn tynnu sylw at amlbwrpasedd y toriadau amrywiol. Cynlluniwyd y rysetiau yma i ysbrydoli defnyddwyr ac arddangos ansawdd eithriadol porc o Gymru, o ffefrynnau traddodiadol i flasau arloesol.

Yn ogystal, cefnogodd HCC Gystadleuaeth Prif Gynhyrchwr Porc CFfI Cymru drwy gynnal diwrnod rhyngweithiol gyda Chigyddion Dewi James yn Aberteifi. Cafodd ffermwyr ifanc y cyfle i gymryd rhan mewn arddangosfa bwtsiera ymarferol, dysgu sut i dorri carcas cyfan yn doriadau unigol a deall y ffordd orau o ddefnyddio pob un. Bydd y wybodaeth ymarferol yma yn eu helpu i wneud penderfyniadau ar sut i farchnata a defnyddio’u moch yn y dyfodol.

Daeth y diwrnod i ben gydag arddangosfa goginio byw gan Elwen Roberts, Swyddog Gweithredol y Defnyddwyr yn HCC, a ddangosodd amlbwrpasedd porc ac ysbrydoli’r criw gyda syniadau creadigol i fynd yn ôl i’w busnesau.

Cydweithiodd HCC hefyd ar astudiaeth achos newydd gyda Moch Coch, busnes sy’n arbenigo mewn cigoedd a salami cartref sydd wedi ennill gwobrau. Mae Moch Coch yn defnyddio dulliau traddodiadol i sychu eu cynnyrch mewn aer yn araf dros sawl mis. Cafodd eu hymrwymiad i ansawdd ei gydnabod yng ngwobrau Great Taste 2024, ble derbyniodd eu chorizo wobr 3-seren, yr acolâd uchaf a wobrywir gan y Guild of Fine Food. Bydd yr astudiaeth achos yma’n cael ei ddefnyddio ar sianelau cyfryngau cymdeithasol Porc Blasus a sianelau marchnata eraill, yn ogystal ag ar y wefan, a gallwch glicio yma i'w ddarllen.

Meddai Pip Gill, Arweinydd Ymgysylltu Brand HCC: “Mae Cymru’n cael ei chysylltu gyda Chig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, ond ni ddylen ni anghofio’r porc sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol – neu Porc Blasus, fel yr hoffwn ni ei alw. Er bod y sector porc yng Nghymru ar raddfa fach, mae’n arbenigol.

“Fe wnaethon ni fwynhau gweithio gyda Moch Coch, yn ogystal â chydweithio gyda’r cynhyrchwyr ifanc yng nghystadleuaeth moch y CFfI. Roedd yr adborth a dderbyniwyd ganddynt yn gadarnhaol, gyda nifer yn frwdfrydig i roi eu gwybodaeth newydd ar waith yn eu mentrau eu hunain.

“Gan edrych ymlaen i 2026, mi fyddwn ni’n datblygu llyfrynnau i’n cynhyrchwyr fel y gallant eu defnyddio yn eu cynlluniau bocs neu eu rhannu’n uniongyrchol gyda defnyddwyr, gan helpu i gryfhau’r cysylltiad rhwng y fferm a’r bwrdd. Byddant yn cynnwys manylion am Porc Blasus, proffiliau cynhyrchwyr a chasgliad o rysetiau blasus.”

Am ganllaw toriadau porc a chyfeiriadur o gynhyrchwyr, ewch i wefan Porc Blasus: Porc Blasus

You may also like

HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad