Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Bu grŵp o arbenigwyr o’r diwydiant yn cyfarfod am y tro cyntaf yn Aberystwyth yr wythnos hon ar ôl cael eu penodi’n aelodau o weithgor newydd, sef y Gweithgor Arloesi ac Ymchwil Cynaliadwy.

Cafodd deuddeg unigolyn eu dewis, gyda’r nod o gefnogi ac arwain Hybu Cig Cymru (HCC) ym meysydd arloesi, ymchwil a datblygu mewn perthynas â chynaliadwyedd sector cig coch Cymru.

Dan gadeiryddiaeth Aelod o Fwrdd HCC, y ffermwr cig eidion a defaid, Emlyn Roberts, mae arbenigedd y grŵp yn amrywio o dir glas, iechyd pridd a bioamrywiaeth i systemau da byw, iechyd anifeiliaid a geneteg, ynghyd â phrofiad o gadwyni cyflenwi cynaliadwy.

Bydd dyletswyddau’r grŵp yn cynnwys cynnal ymagwedd gyfannol at gynaliadwyedd ar gyfer holl agweddau cynhyrchu cig coch yng Nghymru; rhannu gwybodaeth am ddatblygiadau, gweithgareddau ac ymchwil newydd; rhagweld cyfleoedd ar gyfer cynaliadwyedd; a chynghori ynghylch y posibilrwydd o gydweithio strategol addas.

Dywedodd Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol yn HCC, Rachael Madeley-Davies a oedd yn bresennol yn y cyfarfod cyntaf ar 27 Chwefror:  “Mae HCC wedi ymrwymo i leihau effaith cynhyrchu a phrosesu cig coch Cymru ar yr hinsawdd, yr amgylchedd a gwastraff. Blaenoriaeth arall yw cyfrannu at wneud y diwydiant yma yng Nghymru yn fwy proffidiol a chynaliadwy. Gyda hynny mewn golwg, sefydlwyd y grŵp newydd hwn i gefnogi’r gwaith o gyflawni ein dogfen strategol ‘Gweledigaeth 2025’ sy’n amlinellu’r blaenoriaethau, y cyfleoedd a’r heriau allweddol ar gyfer y sector cig coch.

“Cawsom ddechrau gwych gyda chyfarfod cadarnhaol iawn. Cafwyd trafodaeth frwd am gynaliadwyedd y sector, gan rannu syniadau adeiladol i’w wella er mwyn diogelu ei ddyfodol. Bydd y sgwrs hon yn parhau o fewn HCC ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r grŵp dros y misoedd nesaf.”

Aelodau’r Gweithgor yw:

  • Arfon Williams, RSPB
  • Charles Bowyer, Canolfan Agri-EPI
  • Claire Jones, Canolfan Milfeddygaeth Cymru
  • Dr Christina Marley, IBERS
  • Dr Julie Finch, Kepak
  • Dr Nicola Lambe, Coleg Gwledig yr Alban
  • Dr Prysor Williams, Prifysgol Bangor
  • Dr Sarah Morgan, Prifysgol Harper Adams
  • Emlyn Roberts, Bwrdd HCC (Cadeirydd y Grŵp)
  • Leisia Tudor, Dunbia
  • Yr Athro Mike Humphreys, Bwrdd HCC
  • Neil Howard, Aelod Annibynnol
  • Neil Shand, Y Gymdeithas Gig Eidion Genedlaethol (NBA)
  • Steven Williams, Y Ganolfan Technoleg Bwyd

You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol