Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Visit website
Share

Bydd y data gwybodaeth diweddaraf am y farchnad cig coch, rhagofynion y farchnad  ac ymgyrch gyfredol Cig Oen Cymru PGI yn cael eu trafod gan arbenigwyr Hybu Cig Cymru (HCC) yn eu maes – Glesni Philips, Philippa Gill, a James Ruggeri mewn gweminar sydd i ddod.

Cynhelir y digwyddiad, sy'n agored i bawb, ddydd Iau 26 Medi drwy Teams, gan ddechrau am 6:30pm a bydd hefyd yn rhoi cyfle i dalwyr ardoll ofyn cwestiynau.

Gall y rhai sy’n ymuno â’r gweminar edrych ymlaen at gyflwyniad gan Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes HCC, Glesni Phillips, a fydd yn amlinellu’r tueddiadau a welir yn y farchnad gig oen ar hyn o bryd. Bydd Philippa Gill, Swyddog Gweithredol Ymgyrchoedd HCC, yn trafod yr ymgyrch gyfredol ar gyfer Cig Oen Cymru, a lansiwyd yn Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf, a bydd James Ruggeri, Swyddog Gweithredol Datblygu’r Diwydiant yn HCC, yn trafod ateb gofynion y farchnad.

Bydd Glesni yn rhoi diweddariad gan ymchwilio i’r tueddiadau diweddaraf sy’n dylanwadu ar y farchnad gig oen, ac archwilio trwybwn cyfredol cig oen, sut mae lefelau cynhyrchu yn amrywio a beth mae hyn yn ei olygu i’r cyflenwad. Yn ogystal, bydd Glesni yn edrych yn fanwl ar gyfeintiau masnachol, gan ddadansoddi’r marchnadoedd gartref a thramor, a’r hyn y gallai’r tueddiadau ei ddangos o ran dyfodol cig oen Cymru yn y farchnad fyd-eang.

Gyda dewisiadau defnyddwyr yn newid, mae deall y newidiadau yn y galw yn y siopau yn bwysicach nag erioed. Bydd deinameg y farchnad fyd-eang hefyd yn ffocws allweddol, gan roi persbectif ehangach i dalwyr ardoll ynghylch safle rhyngwladol Cig Oen Cymru.

Wrth siarad cyn y gweminar, dywedodd Glesni: “Mae hon yn sesiwn wych i ffermwyr ledled Cymru sydd am aros ar y blaen. Wrth i ni lywio tirwedd sy'n newid yn gyflym, mae deall lefelau trwybwn cig oen, maint y fasnach, a galw defnyddwyr yn y siopau yn hanfodol er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus sy'n cael effaith ar broffidioldeb eich fferm.  Mae'r sesiwn hon yn ymwneud â darparu'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i addasu a ffynnu mewn marchnad gystadleuol. I ffermwyr ledled Cymru, mae cael y" wybodaeth ddiweddaraf am y tueddiadau hyn yn hanfodol ar gyfer cynllunio, strategaeth, a gwneud penderfyniadau mwy gwybodus ar gyfer eich gweithrediadau ffermio.”

Bydd James Ruggeri yn trafod sut orau y gall ffermwyr ledled Cymru fodloni gofynion y farchnad er mwyn sicrhau’r enillion gorau a gwella ansawdd cig i’r defnyddiwr. Bydd hefyd yn trafod y costau cynhyrchu cyfredol ar gyfer cynhyrchwyr defaid ac yn tynnu sylw at gyfleoedd i ddatblygu’r diwydiant drwy’r cyrsiau hyfforddi Byw i Farw gyda HCC.

Dywedodd: “Mae Cig Oen Cymru PGI yn gynnyrch rhagorol, ond mae’n bwysig i ffermwyr Cymru barhau i greu cynnyrch y mae’r cwsmer yn dymuno ei gael, a hefyd gwybod y ffordd orau o ateb y gofynion hyn, cael yr enillion gorau, a gwella ansawdd cig i'r defnyddiwr. Byddwn hefyd yn ymchwilio i’r costau cynhyrchu presennol ar gyfer cynhyrchwyr defaid, gan roi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud penderfyniadau strategol ar gyfer llwyddiant eich fferm yn y dyfodol. ”

Bydd Philippa Gill yn trafod hyrwyddiadau Cig Oen Cymru PGI sy’n ymddangos ar sianeli teledu ITV, Sky ac S4C o fis Gorffennaf hyd at ddiwedd mis Hydref ac yn amlinellu mannau eraill lle gwelir yr ymgyrch eleni – gan gynnwys hysbysebion y tu allan i’r cartref, hysbysebion print yng nghylchgrawn Taste Blas a hysbysebion digidol ar draws y lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.  Bydd yn esbonio sut mae’r ymgyrch yn targedu siopwyr yng Nghymru a De Ddwyrain Lloegr ac yn canolbwyntio ar ardaloedd lle mae Cig Oen Cymru ar gael yn y cyffiniau i siopwyr.

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Philippa Gill: Mae’r ymgyrch yn adeiladu ar lwyddiannau ymgyrch Cig Oen Cymru 2023 pan gafwyd cynnydd o 26%  yn yr ymwybyddiaeth o’r brand a chynnydd o 7% yn y duedd i brynu. Gwelwyd yr ymgyrch bron i 24 miliwn o weithiau y llynedd. “Mae ymgyrch eleni yn addo bod yr un mor boblogaidd wrth i ni dargedu pobl ifanc sy’n hoffi bwyd, pobl traddodiadol eu hagwedd, pobl sy’n coginio yn eu cartrefi  a bwytawyr moesegol – a bydd ein negeseuon yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd ac ansawdd, ynghyd â blas, amlbwrpasedd ac iechyd.

Trwy ddefnyddio’r dull strategol hwn, byddwn yn targedu’r bobl sydd fwyaf tebygol o brynu Cig Oen Cymru â negeseuon a fydd yn berthnasol iddyn nhw ac yn sicrhau gwerth am arian ac effeithlonrwydd i’r talwyr ardoll. Rwy’n edrych ymlaen at drafod ymgyrch eleni yn fanylach ac rwy’n gobeithio y bydd llawer ohonoch yn gallu ymuno â ni.”

I ymuno â'r gweminar, cofrestrwch yma:

https://events.teams.microsoft.com/event/8785abea-a8db-4da9-8eb4-1a02e48a759f@6af3ace4-b087-48d1-9983-e769737a7dab


You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol