Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Bu siopwyr yn prynu cig oen yn hytrach na chyw iâr a phroteinau eraill mewn newid amlwg yn gynnar yn y gwanwyn.

Darnau rhostio oedd fwyaf poblogaidd, gyda chynnydd aruthrol o 24 y cant o’r naill flwyddyn i’r llall yn golygu taw dyna oedd 73 y cant o’r holl gig oen a werthwyd, yn ôl yr arbenigwyr ystadegol Kantar. Yng Nghymru y gwelwyd y cynnydd mwyaf yng ngwerthiant cig oen yn gyffredinol.

“Mae’n ymddangos, ar ôl misoedd o fod yn gyndyn i wario, fod ein cwsmeriaid wedi penderfynu gwthio’r cwch allan dros y Pasg a dewis eu ffefryn traddodiadol – darn  o gig oen blasus i’w rostio,” meddai Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes gyda Hybu Cig Cymru (HCC).

Gwelwyd cynnydd rhyfeddol yng nghyfaint y darnau cig oen i’w rhostio mewn cymhariaeth â’r cyfnod cyfatebol yn 2023, er eu bod yn ddrutach na mathau eraill o gig coch. Mae ystadegau Kantar yn awgrymu bod cig oen wedi denu siopwyr oddi ar broteinau eraill, fel cyw iâr, y Pasg hwn, gyda 296,000 o siopwyr ychwanegol yn prynu darnau i’w rhostio.

“Mae’r data yn dangos fod defnyddwyr wedi anwybyddu’r cynhyrchion cig coch rhad y Pasg hwn a phrynu’r darnau rhostio ffres, er bod llawer o bobl yn teimlo gwasgfa ariannol o hyd.  Gwerthwyd pedwar y cant yn llai o gigoedd wedi rhewi mewn cymhariaeth â'r flwyddyn flaenorol, tra bod gwerthiant cig coch ffres wedi cynyddu bron i ddau y cant.

“Mae’n ymddangos fod siopwyr wedi cael gwerth eu harian drwy gyfrwng cynigion hyrwyddo. Yn ystod y Pasg, mae mwyafrif y mân-werthwyr fel arfer yn cynyddu hyrwyddiadau ar draws pob categori cynnyrch. Yn nodedig, bu mwy o hyrwyddo i bob protein cig coch nag yn ystod y Pasg diwethaf; fodd bynnag, cig oen oedd yr unig brotein lle gwelwyd twf cyfaint yn ystod ac oddi ar yr hyrwyddo,” meddai Glesni.

Un eithriad i'r cynnydd ym manwerthu cig oen oedd y sector Cigyddion Annibynnol, a welodd ostyngiad o bron i 20 y cant yn y cyfaint mewn cymhariaeth â'r flwyddyn flaenorol. “Mae’n bosibl taw’r rheswm am hyn oedd bod eu pris nodweddiadol yn uwch ar gyfartaledd, a’u bod yn anos iddyn nhw drefnu hyrwyddiadau na mân-werthwyr mwy yn ystod tymor y Pasg,” meddai Glesni.

You may also like

Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Cyhoeddi aelodau newydd Cig-weithio
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd