Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Bydd staff EIDCymru ar daith dros yr wythnosau nesaf, yn hyrwyddo’r cyfleusterau defnyddiol sydd ar gael i geidwaid defaid, geifr a cheirw ar eu gwefan cofnodi symudiadau.

Bydd y tîm yn ymweld â marchnadoedd ac arwerthiannau hyrddod a defaid magu dros Gymru - o Ruthun i Gaerfyrddin - yn annog ffermwyr i gofrestru ar gyfer cyfrif ar-lein ac yn dangos sut i fanteisio i’r eithaf ar y gwasanaeth sydd ar gael.

Meddai Gwion Aeron, arweinydd EIDCymru:

“Mae nifer o resymau pam y dylech gofrestru ar gyfer cyfrif arlein EIDCymru. Mae’r rhain yn cynnwys creu a chadarnhau symudiad i’ch fferm neu oddi ar y fferm sy’n golygu nad oes angen postio trwyddedau papur. Gall pob symudiad gael ei wirio i sicrhau cywirdeb, a gallwch gadw llygad ar gydymffurfiaeth, sy’n ddefnyddiol pan fyddwch chi’n paratoi am archwiliad. Hefyd, gallwch gwblhau’r  stocrestr flynyddol o ddefaid a geifr drwy eich cyfrif pan fydd yn agor ar 1 Rhagfyr.”

Ychwanegodd:

“Ar ôl cofrestru, gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif a defnyddio’r dangosfwrdd i ddewis o blith yr opsiynau niferus sydd ar gael i’w defnyddio. Os ydych chi’n cael trafferth cofrestru neu angen help i ddeall eich cyfrif, dewch i siarad efo ni mewn marchnad ac fe ddangoswn ni i chi sut mae’n gweithio. I greu cyfrif arlein mi fyddwch chi angen cyfeiriad e-bost, rhif CPH y fferm, Rhif Cyfeirnod Cwsmer RPW, a’ch rhif diadell chwe-digid.

“Rydym ni’n annog pob ceidwad i wneud y defnydd gorau o’r gwasanaethau sy’n rhad ac am ddim, er mwyn gwneud bywyd yn haws.”

Bydd EIDCymru yn y lleoliadau canlynol:

  • 3/10/25 – marchnad Dolgellau
  • 9/10/25 – marchnad Pontarfynach
  • 10/10/25 – marchnad Caerfyrddin
  • 15/10/25 – marchnad Rhayadr
  • 16/10/25 – marchnad Rhuthun
  • 29/10/25 – marchnad Sir Fynwy
  • 24-25/11/25 – Ffair Aeaf CAFC

Mae mwy o wybodaeth arlein neu ffoniwch EIDCymru ar 01970 636959

You may also like

HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad