Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn edrych ymlaen at ddeuddydd llawn a phrysur yn Llanelwedd yr wythnos nesaf yn Ffair Aeaf CAFC. 

Bydd y stondin yn y lle arferol, sef yn Neuadd Arddangos De Morgannwg, a bydd yn llwyfan ar gyfer arddangosfeydd coginio a bwtsiera, lansiadau a chyhoeddiadau.

Yn ogystal, bydd cyfle i drafod y prif faterion sy’n effeithio ar y sector cig coch, a bydd y wybodaeth a’r mewnwelediad diweddaraf ar y farchnad yn cael eu rhannu. 

I agor y Ffair Aeaf mewn steil fe gynhelir Brecwast HCC ym Mhafiliwn Hafod a Hendre, a fydd yn cynnwys areithiau gan Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, a Chadeirydd HCC Catherine Smith.

Yn dilyn y brecwast, caiff rhanddeiliaid ac ymwelwyr â’r Ffair eu hannog i ymweld â stondin HCC am syniadau a rysetiau gaeafol gwych, wedi’u paratoi a’u harddangos gan Swyddog Gweithredol Defnyddwyr HCC, sef Elwen Roberts. Yn ystod y dydd, bydd yr awdur, darlledwr a’r ysgrifennydd bwyd Lowri Haf Cooke yn ymuno â hi i siarad am ei llyfr newydd, ‘Amser Nadolig’ sy’n cynnwys cymysgedd Nadoligaidd o rysetiau ac atgofion.

Bydd adnoddau addysgol diweddaraf HCC, yn cynnwys animeiddiadau sy’n egluro’r daith o’r fferm i’r fforc, yn cael eu harddangos a’u trafod gan y cyflwynydd teledu Mari Lovgreen, sy’n gyfrifol am drosleisio’r fideos. 

Yn ychwanegol at adnoddau HCC, bydd adnoddau addysgol sydd wedi’u cynhyrchu gan brosiect Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn cael eu lansio. Mae ‘Gwledd o Gyfleoedd’ yn adnodd i rymuso pobl ifanc i archwilio’r cyfleoedd di-rif yn y diwydiant bwyd a diod. Bydd y digwyddiad yn cynnwys yr awdur a’r athro Technoleg Bwyd, Lloyd Henry, sydd wedi datblygu’r canllaw gyrfaoedd cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar y sector bwyd a diod, gan dynnu sylw at yrfaoedd amrywiol, yn cynnwys rhai o fewn HCC.

Bydd rysetiau a chynnyrch newydd sbon yn cael eu samplo, gan gynnwys Cig Eidion Cymru PGI wedi’i halltu gan gwmni Trailheads. 

Ddydd Mawrth, cyhoeddir enillydd cystadleuaeth selsig flynyddol HCC. Bydd dau gategori i’w datgelu - traddodiadol a Nadoligaidd - a digon o samplau i’w blasu ar gael; mae hyn yn siŵr o ddenu sylw’r dorf!

Mewn partneriaeth â Hyfforddiant Cambrian, mae arddangosfeydd bwtsiera wedi’u cynnwys hefyd i gynnig syniadau Nadoligaidd ar gyfer bwydlenni dros yr ŵyl. Byddant hefyd yn gyfle i arddangos sgiliau arbennig y cigydd mewn sesiwn dan arweiniad aelod o grŵp Cig-weithio HCC sef Craig Holly.

Bydd llyfryn blynyddol HCC, ‘Llyfr Bach o Ffeithiau Cig’ ar gael i’w gasglu o’r stondin, a bydd ffermwyr yn cael eu recriwtio ar gyfer prosiectau sydd wedi’u hariannu’n rhannol gan HCC sy’n edrych ar ddatblygu strategaethau bridio sy’n lleihau nwyon tŷ gwyrdd, ac un arall ar reoli glaswelltiroedd. Bydd y ddau yn helpu’r diwydiant i ddarparu tystiolaeth ar gynaliadwyedd sector cig coch Cymru.

Meddai Swyddog Gweithredol Digwyddiadau HCC, Medi Jones-Jackson: “Mae’r Ffair Aeaf yn un o uchafbwyntiau calendr HCC ac edrychwn ymlaen yn arw at roi llwyfan i gynnyrch cig coch gwych Cymru, ac at gydweithio gyda phartneriaid a rhanddeilaid o’r diwydiant yn ystod deuddydd y digwyddiad.”

You may also like

Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Ystadegau blynyddol yn dangos y prif newidiadau o ran masnach
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Aelod o’r grŵp Cig-weithio yn derbyn teitl Prif Gigydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Carreg filltir bwysig i RamCompare sydd eisiau hyrddod newydd
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol
Hyrwyddo Cig Oen Cymru yn y Dwyrain Canol