Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Mae Hybu Cig Cymru wedi tynnu sylw at fanteision iechyd a maeth cig coch Cymru yn y cylchgrawn plant dylanwadol, Healthy Child with Dr Ranj Singh.

Mae erthyglau nodwedd a gwybodaeth am rinweddau iechyd cig coch Cymru a'i rôl mewn diet a ffordd iach o fyw yn cael sylw amlwg yn y cylchgrawn sydd wedi'i anelu at rieni a theuluoedd. Caiff y cylchgrawn chwarterol ei werthu yn siopau WH Smith ac mae modd cael hyd iddo hefyd mewn llawer o feddygfeydd ac ystafelloedd aros deintyddion ledled Prydain. Cafodd ei dargedu at rieni plant ifainc ac mae'n ymdrin ag ystod o bynciau iechyd a chymdeithasol sy'n ymwneud â phlant.

Mae gwybodaeth am faetholion Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, gan gynnwys eu protein naturiol, fitaminau B, sinc a haearn, hefyd wedi’u cynnwys mewn cylchlythyr cyfatebol sy’n cyrraedd dros 155,000 o danysgrifwyr. Mae postiadau cyfryngau cymdeithasol a chystadleuaeth i ennill hamper Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru hefyd wedi bod yn rhan o'r bartneriaeth – yn ogystal â hysbysebion digidol a fydd yn cael 93,000 o ymweliadau dros gyfnod o fis.

Yn ogystal â rhoi sylw i syniadau am ryseitiau iach fel Chow Mein Cig Eidion Cymru a Chwpanau Letys Cig Oen Cymru, mae’r erthygl yn adlewyrchu’r ffordd naturiol a moesegol y mae cig coch Cymru yn cael ei gynhyrchu, gan ddefnyddio glaswellt a dŵr glaw naturiol i greu protein maethlon sydd â blas nodedig.

Dywedodd Swyddog Gweithredol Ymgyrchoedd HCC, Philippa Gill: “Roeddem yn falch dros ben o allu hyrwyddo’r manteision maethol a’r ansawdd rhagorol sydd gan Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. Mae’r bartneriaeth hon wedi bod yn rhan bwysig o’n gwaith ymgyrchu ymhlith defnyddwyr, gan sicrhau y gall teuluoedd a rhieni dderbyn gwybodaeth ffeithiol am Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o ffynonellau credadwy fel y cylchgrawn Healthy Child.”

Daw hyn i gyd yn ystod ymgyrch ehangach Cig Oen Cymru:  Arbenigwyr yn eu Maes a gafodd ei lansio yn gynharach eleni yn Sioe Frenhinol Cymru ac a fydd yn para tan ddiwedd mis Hydref. Mae'r ymgyrch yn cynnwys hysbysebion teledu ar Sky, ITV ac S4C, yn ogystal â hysbysebion print a digidol ledled Cymru a rhannau o Loegr, i hyrwyddo Cig Oen Cymru fel cynnyrch cynaliadwy o ansawdd uchel.

You may also like

HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad