Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Roedd hanes cynaliadwyedd Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI, yn ogystal â’u blas danteithiol a maethlon, yn cael y prif sylw pan groesawodd Hybu Cig Cymru (HCC) ddirprwyaeth fasnach o’r Eidal i helpu i gryfhau’r berthynas allforio.

Yn ystod yr ymweliad, a oedd yn cynnwys taith o amgylch y cyfleusterau prosesu ar safle Kepak ym Merthyr Tudful ac ymweliad â fferm Newton, sef menter cig eidion a defaid ger Aberhonddu, gwelodd yr ymwelwyr sut mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn cael eu cynhyrchu a’u paratoi ar gyfer cadwyn fwyd y DG a marchnadoedd allforio fel yr Eidal.

Roedd yr ymweliad yn dilyn gweithgarwch y llynedd pan drefnodd HCC ddau ddigwyddiad ar gyfer y farchnad allforio bwysig hon, sef Dosbarth Meistr i Gwmni Gwasanaeth Bwyd Eidalaidd, pan gafwyd cyflwyniad gan HCC ar gyfer aelodau’r tîm gwerthu a Chinio Gala i arddangos Cig Oen Cymru yn Fenis.

Cafodd yr ymwelwyr diweddaraf groeso cynnes ar fferm y teulu Roderick sy’n ffermio cig eidion a defaid yn Nyffryn Wysg ger Aberhonddu.  Mae ganddyn nhw fuches o 100 o fuchod Stabiliser ac maen nhw’n gwerthu gwartheg cig wedi’u pesgi yn ogystal â theirw a heffrod ar gyfer magu.  Hefyd, maen nhw’n cadw  1100 o famogiaid ac maen nhw wrthi’n newid o system amnewid croes Suffolk prŷn gydag wyna dan do i famogiaid cyfansawdd hunan-amnewid sydd yn wyna yn yr awyr agored.  Maen nhw'n tyfu rhai cnydau âr, betys porthiant, swêds ac amrywiaeth o wndwn. Y nod yw sicrhau'r allbwn mwyaf posibl o'r hyn y gellir ei gynhyrchu'n gynaliadwy ar y fferm, a phrynu llai o borthiant a gwrtaith.

Ar ôl i Richard Roderick ddangos eu system ffermio i’r prynwyr cig oen a chig eidion o’r Eidal, dywedodd: “Roedd yn hyfryd cael yr haul yn gwenu wrth i ni drafod cynhyrchu cig oen a chig eidion ar ffermydd teuluol ledled Cymru.  Gwnaed argraff ar yr Eidalwyr o glywed am y ffordd naturiol a chynaliadwy y mae da byw yn cael eu magu yng Nghymru a sut mae hynny’n gwella bioamrywiaeth ac yn diogelu ansawdd y dŵr.

Wrth sôn am yr ymweliad, dywedodd Pennaeth Marchnata a Chysylltiadau Strategol HCC, Laura Pickup: “Mae wastad yn bleser arddangos yr hyn sy’n gwneud Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn gynnyrch premiwm gartref a thramor. Trwy gyfrwng ymweliadau fel hyn rydym yn gallu dod â’n cwsmeriaid mewn marchnadoedd hollbwysig i gysylltiad â chynhyrchwyr llawr gwlad a gallan nhw weld yn y fan a’r lle beth sy’n gwneud ein cig coch yn gynaliadwy a sut mae’n cael ei baratoi mewn modd proffesiynol ar gyfer ei allforio.”

Dywedodd Leighton Jones, Uwch Reolwr Caffael Kepak: “Roedd Kepak yn falch iawn o allu croesawu’r ymwelwyr a chael y cyfle i arddangos ymroddiad ffermwyr fel y teulu Roderick wrth gynhyrchu Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI yn gynaliadwy ar gyfer cadwyn gyflenwi Kepak.  Roedd hefyd yn gyfle gwych i ddangos y buddsoddiadau pwysig a wnaed yn ddiweddar yn ein cyfleusterau o'r radd flaenaf ym Merthyr Tudful.”

You may also like

Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
Ysgolor newydd HCC â’r nod o archwilio dulliau cynaliadwy ymarferol i ffermwyr Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
HCC yn Sioe Frenhinol Cymru
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd
Cigoedd Oen ac Eidion Cymru yn Sioe Fwyd Ffansi’r Haf Efrog Newydd
HCC yn mynd â’r neges cig coch at addysgwyr Cymru
HCC yn mynd â’r neges cig coch at addysgwyr Cymru