Skip to content
Eat Welsh Lamb & Welsh Beef

Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy ennill statws prin Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).

Visit website
Porc Blasus

Mae Cymru’n enwog am gynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o safon, ond ddylen ni ddim anghofio am ein porc.

Visit website
Hwb Cig Coch

Mae'r Hwb Cig Coch yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn iechyd ac addysg trwy ddarparu adnoddau gwybodaeth a dysgu manwl ynghylch cig coch a maeth, diet cytbwys, tarddiad a diogelwch bwyd, prynu, storio, paratoi a choginio cig coch.

Share

Bydd corff ardoll cig coch Cymru, Hybu Cig Cymru (HCC), yn mynychu sioe fasnach enwog Gulfood a gynhelir yn Dubai rhwng 26-30 Ionawr i hyrwyddo Cig Oen Cymru PGI i gynulleidfa fyd-eang.

Bydd gan HCC bresenoldeb yn Neuadd Gig Gulfood yn ogystal ag ar stondin Llywodraeth Cymru  yn y Pafiliwn Rhyngwladol - gan sicrhau presenoldeb cryf ar draws y digwyddiad. Yn ogystal, mae HCC yn noddi Gwobrau Bwyd Da (Good Food Awards) y BBC, sy'n digwydd cyn Gulfood, i hyrwyddo Cig Oen Cymru PGI i bobl oddi mewn i’r diwydiant bwyd, prynwyr a chynrychiolwyr o'r diwydiant a’r sector lletygarwch. Yn ystod gweithgareddau’r gwobrau, bydd Cig Oen Cymru PGI yn cael ei goginio a'i weini gan y cogydd Russell Impiazzi.

Mae marchnadoedd y dwyrain canol yn dal i fod yn darged i allforwyr cig coch Cymru. Mae galw mawr am gynhyrchion cig oen yn y gwledydd hyn, lle mae nifer yr alltudion o'r DG ar gynnydd.

Gulfood yw un o sioeau masnach bwyd a diod mwyaf y byd ac mae'n cynnwys dros 8,500 o arddangoswyr o dros 130 o wledydd. Mae’r sioe eleni wedi'i rhannu dros ddau safle, gyda'r Pafiliwn Cig wedi ei leoli yng Nghanolfan Masnach y Byd Dubai a'r Pafiliwn Rhyngwladol wedi ei osod yn Expo Dubai. Bydd gan HCC bresenoldeb yn y ddau leoliad drwy gydol y sioe.

Dywedodd Arweinydd Datblygu Marchnad HCC, Jason Craig: “Bydd HCC yn dychwelyd i Gulfood yn 2026 i roi allforwyr Cymru mewn cysylltiad â phrynwyr yn y rhanbarth.  Gulfood yw prif sioe fasnach bwyd a diod y Dwyrain Canol ac mae'n gyfle unigryw i gyfarfod â mewnforwyr, prynwyr, perchnogion tai bwyta a chynrychiolwyr busnes yn y rhanbarth.”

“Os hoffech ddod i gwrdd â ni i fwynhau blas Cig Oen Cymru PGI a dysgu mwy am yr hyn y gall HCC ac allforwyr Cymru ei gynnig, dewch i'n stondin SL2 yng Nghanolfan Masnach y Byd Dubai.”

You may also like

HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
HCC yn croesawu adroddiad ‘Cynhyrchu Buchod Sugno Eidion Cymreig’ NFU Cymru
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
EIDCymru yn cyrraedd carreg filltir fawr
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Criw Cig-weithio yn archwilio geneteg gwartheg bîff
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad
Gostyngiad mewn lefelau lladd a chyflenwad